Cors: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →Siglen |
|||
Llinell 27:
===Dosraniad Llystyfiant Cenedlaethol (''National Vegetation Classification'' (''NVC'')===
Ar ôl datblygu'r Dosraniad Llystyfiant Cenedlaeth (NVC) yn y 1990au i ddosbarthu cynefinoedd Prydain yn ffurfiol yn ôl eu llustyfiant daeth angen dybryd am dermau Cymraeg sydd yn cyfateb i'r termau Saesneg. Ar ôl gwyntyllu'r eirfa gyfoethog iawn yn y ddwy iaith, profodd yr orchwyl yn amhosibl am ddau reswm: 1. ystyron y eirfa yn gorgyffwrdd yn y Gymraeg a'r Saesneg, a 2. dim cyfatebiaeth gadarn rhwng y termau yn y ddwy iaith. Doedd dim byd amdani ond ceisio safoni ystyr yn y Gymraeg er mwyn bod mor synhwyrol a phosibl a thriw i'r hyn a ddisgrifir. Dyma ymdrech i gymhwyso termau Cymraeg ddosraniad gwyddonol yr NVC
Tansley (1965)<ref>Tansley, A. G (1965) The British Islands and their Vegetation CUP</ref> oedd un o'r rhai cyntaf i ddisgrifio'r cymunedau llysieuol mae'r gwyrddling yn ohonynt. Yn fwy diweddar cyhoeddwyd y Dosraniad Llysieuol Cenedlaethol (NVC)<ref>https://en.wikipedia.org/wiki/British_National_Vegetation_Classification</ref> trwy samplo ffurfiol a manwl i geisio adnabod yr uniadau ystadegol y mae pob rhywogaeth yn perthyn iddynt. Bu Skene et al (2000)<ref>Journal of Ecology Volume 88, Issue 6, Version of Record online: 24 DEC 2001</ref> yn un o'r rhai a ddefnyddiodd y Dosbarthiad i ddisgrifio cymunedau rhywogaethau penodol megis y gwyrddling. Fe adnabu 16 o wahanol gymunedau breision y mae'r gwyrddling yn rhan ohonynt ym Mhrydain. Yn y crynodeb canlynol mae'r disgrifiadau mewn bachau petrual yn cyfeirio'n benododol at natur presenoldeb y gwyrddling yn y gymuned dan sylw ac yn perthyn i Skene et al (2000) tra bod y prif ddisgrifiad wedi eu codi o'r Dosraniad Llysieuol Cenedlaethol (NVC: cyfieithiad Cymdeithas Edward Llwyd/Porth Termau Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor).:
|