William Williams, Pantycelyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cyfeirnodion ar y we
Llareggub (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
Cafodd droedigaeth wrth wrando ar [[Howel Harris]] yn pregethu yn [[Talgarth|Nhalgarth]] yn [[1737]]. Er iddo fod yn gurad i [[Theophilus Evans]] am gyfnod, gwrthodwyd ei urddo yn offeiriad yn Eglwys Loegr yn [[1743]] oherwydd ei gysylltiadau â'r [[Methodistiaid]]. Ar ôl hynny canolbwyntiodd ar weithio dros y mudiad Methodistaidd. Roedd yn bregethwr teithiol a daeth yn enwog am ei allu arbennig i arwain seiadau. Ef ynghyd â [[Daniel Rowland]] a [[Howel Harris ]] oedd prif arweinwyr y Methodistiaid yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif. Trwy ei emynau, yn enwedig, ef yw un o'r dylanwadau pwysicaf ar y diwylliant Cymraeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif.
 
Roedd yn awdur toreithiog yn y Gymraeg. Ysgrifennodd rai emynau Saesneg. Mae ei emyn, 'Guide me, O thou great Jehovah' (sy'n cynnwys y geiriau 'Bread of Heaven, feed me now and evermore', ac yn cael eu ganu â'r alaw ''Cwm Rhondda'') yn parhau yn hynod boblogaidd yn fyd-eang.
 
Mae ''Capel Coffa William Williams Pantycelyn'' yn [[Llanymddyfri]]. Mae ei fedd yn Eglwys [[Llanfair-ar-y-bryn]] ar gyrion tref Llanymddyfri.