The War of the Worlds: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Adding: th:The War of the Worlds
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Wedi'i chyhoeddi yn 1898, [[nofel]] [[ffuglen wyddonol]] yw '''''The War of the Worlds''''' ("''Y Rhyfel y Bydoedd''") gan yr awdur o [[Y Saeson|Sais]] [[H. G. Wells]].
 
== Y Stori ==
:'''''Rhybudd: Datguddir plot y llyfr yn yr erthygl hon.'''''<br>
Wedi'i lleoli yn bennaf yn nhrefi bach [[Surrey]], de-ddwyrain [[Lloegr]], mae'r stori'n disgrifio ymosodiad ar [[Daear|y Ddaear]] gan fyddin o'r blaned [[Mawrth]].
 
Llinell 11:
== Neges y Llyfr ==
 
Bu sawl dehongliad ar neges ac ystyr y llyfr. Yn sicr, condemniad yw e ar ''hubris'' a hyder gormodol pobl Oes Fictoria, a'u cred mai nhw oedd meistri naturiol [[Daear|y Ddaear]]. At hynny, mae yna gymhariaethau agored gan yr awdur rhwng y ffordd y mae'r Mawrthiaid yn trin pobl [[y Ddaear]] a'r ffordd yr oedd Ewropeaid wedi trin pobloedd eraill y byd. (Mae [[H. G. Wells]] yn sôn yn benodol yn y llyfr am fel y bu Ewropeaid yn gyfrifol am ddileu hil y [[Tasmania|Tasmaniaid]] yn gyfan gwbl o fewn prin bum deng mlynedd).
 
Fe ellir gweld hefyd yn y llyfr ddadl dros hawliau anifeiliaid: wrth ei gael ei hunan ar ei ben ei hunan yng nghefn gwlad [[Surrey]], a'r Mawrthiaid ar ei ôl, mae'r storïwr yn siarad gyda chryn gydymdeimlad am dynged y creaduriaid y mae dynion yn eu hela.
Llinell 19:
Addaswyd y [[nofel]] yn ddrama [[radio]] yn [[1938]] gan [[Orson Welles]] a'i Gwmni Theatr Mercury. Symudwyd y lleoliad i [[New Jersey]], a chyflwynodd yr actorion y stori mewn dull newyddiadurol, fel pe baent yn adrodd stori hollol wir. Mor effeithiol oedd hyn nes bod llawer o bobl yn gwir gredu bod y Mawrthiaid wedi glanio yn [[America]], gan ffoi o'u cartrefi dan fraw.
 
Trowyd The '''War of the Worlds''' yn ffilm yn [[1953]] gan y cyfarwyddwr Byron Haskin, ond cynhyrchiad eithaf di-fflach oedd hwn, ac iddo neges [[Comiwnyddiaeth|wrth-Gomiwynyddol]] ddiflas o amlwg.
 
Yn [[1978]], trowyd y stori yn opera roc gan y cerddor Jeff Wayne, a [[Richard Burton]] yn cymryd rhan y storïwr.
 
Yn [[1988]]-[[1990]] roedd yna ddwy gyfres o fersiwn teledu Americanaidd o'r '''War of the Worlds''', gyda'r Mawrthwyr yn deffro o aeafgwsg - roeddent wedi bod yn cysgu ers y ffilm [[1953]]!
 
Cafwyd ail addasiad ffilm yn [[2005]] gan y cyfarwyddwr [[Steven Speilberg]], ond pur gymysg oedd barn y beirniaid ar hwn.