Endaf Emlyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 45:
==Gyrfa==
===Cerddoriaeth===
Bu'n cyfansoddi ers y 1960au ac ymunodd a chwmni cyhoeddi [[Tony Hatch]], M&M Music. Ym 1967/8 cyhoeddwyd ei record gyntaf, ''Paper Chains'' ar label [[Parlophone]], yr un label â'r [[Beatles]] ar y pryd. Dewiswyd y gân yn record yr wythnos gan [[Tony Blackburn]] ar [[BBC Radio 1]]. Ar ail ochr y record sengl oedd ''Madryn'' a chafodd ei recordio yn stiwdio'r Beatles yn [[Abbey Road]]. Cyhoeddodd ddwy record sengl arall ar Parlophone, '' All My Life'' / ''Cherry Hill'', a ''Starshine'' / ''Where were You?''.<ref name="bbccymrucerdd"/>
 
Rhyddhawyd ei albwm gyntaf, ''Hiraeth'' yn 1973, albwm oedd yn cyfuno dehongliadau o hen alawon gwerin a chaneuon gwreiddiol telynegol eu naws.<ref name="bbccymrubywyd"/>
Llinell 51:
Y grŵp cyntaf iddo fod yn aelod ohono oedd [[Yr Eiddoch Yn Gywir]] gyda [[Hywel Gwynfryn]] a Derek Boote. Aeth ymlaen i fod yn aelod o'r swper grŵp [[Injaroc]] yn 1977 a'r grŵp [[Jîp]].<ref name="bbccymrubywyd"/>
 
Yn 1974 cyfansoddodd gerddoriaeth agoriadol opera sebon Gymraeg y BBC, ''[[Pobol y Cwm]]'', ac mae'r thema wedi ei ddefnyddio mewn sawl fersiwn ers hynny.<ref name="bbccymrubywyd"/>
 
===Ffilm a theledu===
Cychwynnodd ei yrfa deledu fel sgriptiwr â chyhoeddwr gyda [[TWW]] ac yna yn gyflwynydd ar rhai o'r rhaglenni pop cyntaf yn y Gymraeg, yn ogystal a gweithio tu ôl y llenni fel rheolwr llawr. Yn ddiweddarach, roedd yn gynhyrchydd y rhaglen gerddoriaeth ''[[Sgrech (rhaglen deledu)|Sgrech]]'' ar [[HTV Cymru]] ar ddiwedd y 1970au. Yn 1983 cyfarwyddodd y rhaglen ddogfen ''Shampŵ'', a enillodd wobr Ysbryd yr Ŵyl yn yr Ŵyl Ffilm a Theledu Geltaidd.
 
Daeth yn gyfarwyddwr ffilmiau llwyddiannus ac arobryn yn cychwyn gyda'r ffilm ''[[Gaucho (ffilm)|Gaucho]]'' yn 1984. Sefydlodd gwmni ffilm a theledu Gaucho oedd yn weithgar iawn yn y 1990au.<ref>{{dyf gwe|url=https://wici.porth.ac.uk/index.php/Endaf_Emlyn|teitl=Porth - Endaf Emlyn|cyhoeddwr=Coleg Cymraeg Cenedlaethol|dyddiad=18 Awst 2013|dyddiadcyrchiad=1 Mai 2016}}</ref>