Manuel I Komnenos: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Image:manuelcomnenus.jpg|bawd|180px|Llun Manuel I Komnenos mewn llawysgrif]]
 
[[Yr Ymerodraeth Fysantaidd|Ymerawdwr Bysantaidd]] rhwng [[1143]] a [[1180]] oedd '''Manuel I Komnenos''' neu '''Comnenus''', [[Groeg (iaith)|Groeg]]: ''Μανουήλ Α' Κομνηνός''}}, ''Manouēl I Komnēnos'' neu '''Μανουήλ o Μέγας'', "Manuel Fawr" ([[28 Tachwedd]], [[1118]] - [[24 Medi]], [[1180]]).
 
Roedd Manuel yn bedwerydd mab yr ymerawdwr [[Ioan II Komnenos]]. Penododd ei dad Manuel yn olynydd yn hytrach na'i frawd hynaf Isaac Komnenos wedi iddo chwarae rhan bwysig yn y rhyfeloedd yn erbyn y Twrciaid. Wedi dod yn ymerawdwr ar farwolaeth ei dad yn 1143, bu'n ymgyrchu yn y dwyrain a'r gorllewin. Gwnaeth gynghrair a [[Teyrnas Jeriwsalem|Theyrnas Jeriwsalem]] a gyrrodd lynges fawr i gymeryd rhan mewn ymosodiad ar [[yr Aifft]]. Ymestynnodd ei awdurdod dros wladwriaethau'r croesgadwyr, gyda [[Raynald, Tywysog Antioch]] ac [[Amalric, brenin Jeriwsalem]] yn gwneud cytundebau oedd yn cydnabod ei awdurdod. Gyrrodd fyddin i'r Eidal yn [[1155]], ond bu raid iddi encilio oherwydd anghydfod gyda'i gyngheiriaid. Ymosododd ar Deyrnas [[Hwngari]] yn 1167, gan orchfygu'r Hwngariaid ym Mrwydr Sirmium. Erbyn 1168 roedd bron y cyfan o arfordir dwyreiniol y [[Môr Adriatig]] yn nwylo'r ymerodraeth. Gwnaeth nifer o gytundebau a'r Pab ac a theyrnasoedd Cristionogol y gorllewin, a llwyddodd i sicrhau fod byddinoedd [[yr Ail Groesgad]] yn mynd trwy ei diriogaethau heb drafferth.