Orléans: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Dinas hanesyddol yng ngogledd canolbarth Ffrainc, prifddinas weinyddol ''département'' Loiret a hefyd ranbarth Centre, yw '''Orléans'''. Gorwedd ar lan [[Afon Loire...
 
ehangu, llun
Llinell 1:
[[Delwedd:Orleans.jpg|300px|bawd|Afon Loire yn llifo trwy Orléans]]
Dinas hanesyddol yng ngogledd canolbarth [[Ffrainc]], prifddinas weinyddol ''[[département]]'' [[Loiret]] a hefyd ranbarth [[Centre]], yw '''Orléans'''. Gorwedd ar lan [[Afon Loire]] 116 km i'r de-orllewin o [[Paris|Baris]]. Gelwir ei thrigolion yn ''Orléanais''. Mae'n sedd [[esgobaeth]] ers y 4edd ganrif.
:''Erthygl am y ddinas yn Ffrainc yw hon. Gweler hefyd [[Orleans (gwahaniaethu)]].''
 
Dinas hanesyddol yng ngogledd canolbarth [[Ffrainc]], prifddinas weinyddol ''[[département]]'' [[Loiret]] a hefyd ranbarth [[Centre]], yw '''Orléans'''. Gorwedd ar lan [[Afon Loire]] 116 km i'r de-orllewin o [[Paris|Baris]]. Gelwir ei thrigolion yn ''Orléanais''. Mae'n sedd [[esgobaeth]] ers y 4edd ganrif. Enwir dinas [[New Orleans]] (''Nouvelle Orléans'') yn yr [[Unol Daleithiau]] ar ôl Orléans.
 
Yn [[1428]], yn ystod [[y Rhyfel Can Mlynedd]], roedd y Saeson yn gwarchae ar ddinas Orléans. Yn [[1429]], perswadiodd merch ieuanc o blith y werin, [[Jeanne d’Arc]], y Dauphin, [[Siarl VII, brenin Ffrainc|Siarl VII]], i’w gyrru i godi’r gwarchae, gan ddweud ei bod wedi cael gweledigaeth gan Dduw yn gorchymyn iddi yrru’r Saeson allan. Llwyddodd i godi’r gwarchae o fewn naw diwrnod, ac ysbrydolodd y Ffrancwyr i gipio nifer o gaerau’r Saeson ar hyd [[Afon Loire]]. Yn fuan wedyn, cafodd y Ffrancwyr fuddugoliaeth dros y Saeson ym Mrwydr Patay. Coronwyd y Dauphin yn [[Reims]] fel Siarl VII, gyda Jeanne yn ei arwain i'w goroni.
 
Dioddefodd y ddinas lawer o ddifrod yn yr [[Ail Ryfel Byd]], yn enwedig yn 1940, ond mae'r [[eglwys gadeiriol]] ganoloesol yn dal i sefyll. Mae Neuadd Dref Orléans (''hôtel de ville'') yn dyddio o'r 16fed ganrif.
 
===Dolenni allanol===
* {{eicon fr}} [http://www.orleans.fr/ Gwefan swyddogol y ddinas]
 
 
{{eginyn Ffrainc}}