Jazz: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Figaro-ahp (sgwrs | cyfraniadau)
→‎Gwreiddiau: Jazz Gynnar.
Figaro-ahp (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 43:
== Yr 1940au a'r 1950au: Bebop ==
{{prif|Bebop}}
[[File:Charlie Parker, Tommy Potter, Miles Davis, Duke Jordan, Max Roach (Gottlieb 06851).jpg|thumb|right|[[Charlie Parker]] a'i fand, Efrog Newydd, tua 1945. Parker oedd un o fawrion [[bebop]]]]
Datblygiad sylweddol yn Jazz yn ystod y 1940au oedd [[Bebop]], math newydd o Jazz oedd yn llawer mwy gymhleth, yn harmonig ac yn rythmig, na cherddoriaeth Swing a [[Jazz traddodiadol]]. Yn wahanol i Swing ac ardduliiau Jazz cynharach, ni fwriadwyd [[Bebop]] ar gyfer dawnsio. Roedd hyn yn galluogi i gerddorion i chwarae'n gyflymach o lawer, a throdd ffocws y gerddoriaeth yn fwy byth ar yr unigolyn yn hytrach na'r grŵp. Dylanwad sylweddol Bebop oedd trawsnewid Jazz o fod yn [[cerddoriaeth boblogaidd|gerddoriaeth boblogaidd]] i fod yn arddull gerddorol a gafodd ei ystyried yn [[celf|gelf]]. Er cymerwyd lle bebop 'pur' yr 1940au ar ganol datblygiad jazz gan arddulliau eraill yn gymharol gyflym, strwythur bebop a welir fwyaf aml ym mwyafrif jazz modern o'r 1940au hyd at y presennol.
 
O'r dechrau ymlaen roedd bebop yn ddadleuol ymysg beirniaid a'r cyhoedd. Er gwaethaf ei bwysigrwydd o ran datblygiad jazz, cymharol fechan oedd cyfran bebop o'r farchnad gerddoriaeth yn y 1940au; yn hytrach, Swing oedd yn parhau i werthu orau.
 
Cerddorion Bebop allweddol oedd [[Charlie Parker]], [[Dizzy Gillespie]] a [[Thelonious Monk]].
 
=== Bop Galed ===
{{prif|Bop Galed}}
Arddull oedd Bop Galed ([[Saesneg]]: ''Hard Bop'') a dyfodd allan o bebop yn ystod yr 1950au. Cyfuniad oedd o bebop gyda a dylanwadau cyfredol o'r tu allan i jazz, megis cerddoriaeth [[gospel]], [[y felan]] a [[rhythm a blŵs]]. Cerddorion bwysig ym myd bop galed oedd [[Miles Davis]], [[Sonny Rollins]], [[Art Blakey]] a [[Max Roach]].
 
== 1960au a'r 1970au: Jazz rhydd, Ôl-bop a Fusion ==