Valens: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Ychwanegwyd 245 beit ,  15 o flynyddoedd yn ôl
effaith
BDim crynodeb golygu
(effaith)
 
Bu Valens yn ymladd yn erbyn y [[Gothiaid]] ac yn erbyn y Persiaid. Roedd yn cynllunio ymgyrch yn y dwyrain pan symudodd nifer fawr o [[Fisigothiaid]] i mewn i'r ymerodraeth yn [[Moesia]] a of [[Dacia]] oherwydd fod yr [[Hyniaid]] yn ymosod arnynt. Ar y cyntaf fe'u derbyniwyd yn heddychlon, ond yn fuan dechreuodd ymladd. Enillodd y Gothiaid nifer o frwydrau lleol, ac yn [[378]] daeth Valens ei hun i'w gwrthwynebu. Roedd ei nai, [[Gratian]], oedd wedi olynu Valentinianus, ar y ffordd gyda byddin i gynorthwyo, ond mynnodd Valens ymladd cyn iddo gyrraedd. Ym [[Brwydr Adrianople (378)|Mrwydr Adrianople]] ar [[9 Awst]] 378, gorchfygwyd ef gan y Gothiaid a'u cyngheiriaid a'i ladd. Olynwyd ef gan [[Theodosius I]].
 
Gwnanychwyd yr ymerodareth Rufeinig yn fawr gan ei cholledion ym Mrwydr Adrianople. Canlyniad arall y frwydr a marwolaeth Valens oedd gwanhau [[Ariadaeth]] yn yr ymerodraeth; roedd Valens yn Ariad ond roedd ei olynwyr yn dilyn [[Credo Nicea]].
 
 
37,236

golygiad