Brwydr Adrianople (378): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Ymladdwyd '''Brwydr Adrianople''' ar 9 Awst 378 gerllaw dinas Adrianople (Edirne yng ngorllewin Twrci heddiw) rhwng byddin yr Ymerodraeth Rufeinig yn y dwyrain da...
 
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Dechreuodd y problemau i'r ymerodraeth Rufeinig pan symudodd nifer fawr o [[Fisigothiaid]] dan [[Fritigern]] i mewn i'r ymerodraeth yn [[Moesia]] a [[Dacia]] oherwydd fod yr [[Hyniaid]] yn ymosod arnynt. Ar y cyntaf fe'u derbyniwyd yn heddychlon, ond yn fuan bu problemau; nid oedd bwyd ar gael iddynt ac roedd y trigolion lleol yn elyniathus iddynt. Heblaw y Gothiaid oedd wedi cael caniatad i groesi'r ffîn, roedd miloedd eraill wedi dod i mewn i'r ymerodraeth heb ganiatad.
 
Enillodd y Gothiaid nifer o frwydrau lleol, ac yn [[378]] daeth yr ymerawdwr yn y dwyrain, Valens, i'w gwrthwynebu. Roedd yr ymerawdwr yn y gorllewin, ei nai [[GratianGratianus]], ar y ffordd gyda byddin i gynorthwyo, ond mynnodd Valens ymladd cyn iddo gyrraedd. Ym Mrwydr Adrianople ar [[9 Awst]] 378, gorchfygwyd ef gan y Gothiaid a'u cyngheiriaid a'i ladd. Olynwyd ef gan [[Theodosius I]].
 
Gwnanychwyd yr ymerodraeth Rufeinig yn fawr gan ei cholledion ym Mrwydr Adrianople. Canlyniad arall y frwydr a marwolaeth Valens oedd gwanhau [[Ariadaeth]] yn yr ymerodraeth; roedd Valens yn Ariad ond roedd ei olynwyr yn dilyn [[Credo Nicea]].