Brwydr Adrianople (378): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) llun |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) ehangu |
||
Llinell 1:
[[Image:Bataille-andrinople-I.svg|bawd|250px|Brwydr Adrianople. Mae gwŷr meirch y Gothiaid (coch) yn ymosod ar ddwy ystlys y fyddin Rufeinig (glas).]]
Ymladdwyd '''Brwydr Adrianople''' ar [[9 Awst]] [[378]] gerllaw dinas Adrianople ([[Edirne]] yng ngorllewin [[Twrci]] heddiw) rhwng byddin [[yr Ymerodraeth Rufeinig]] yn y dwyrain dan yr ymerawdwr [[Valens]] a byddin y [[Gothiaid]] a'i cyngheiriaid.
Llinell 5:
Dechreuodd y problemau i'r ymerodraeth Rufeinig pan symudodd nifer fawr o'r Gothiaid dan [[Fritigern]] i mewn i'r ymerodraeth yn [[Moesia]] a [[Dacia]] oherwydd fod yr [[Hyniaid]] yn ymosod arnynt. Ar y cyntaf fe'u derbyniwyd yn heddychlon, ond yn fuan bu problemau; nid oedd bwyd ar gael iddynt ac roedd y trigolion lleol yn elyniathus iddynt. Heblaw y Gothiaid oedd wedi cael caniatad i groesi'r ffîn, roedd miloedd eraill wedi dod i mewn i'r ymerodraeth heb ganiatad.
Enillodd y Gothiaid nifer o frwydrau lleol, ac yn [[378]] daeth yr ymerawdwr yn y dwyrain, Valens, i'w gwrthwynebu. Roedd yr ymerawdwr yn y gorllewin, ei nai [[Gratianus]], ar y ffordd gyda byddin i gynorthwyo, ond mynnodd Valens ymladd cyn iddo gyrraedd.
Pan ddychwelodd y marchogion Gothaidd, ymosodasant ar ddwy ystlys y fyddin Rufeinig. Gorchfygwyd Valens a'i ladd. Credir i rhwng 10,000 ac 20,000 o filwyr Rhufeinig gael eu ladd yn y frwydr. Gwanychwyd yr ymerodraeth Rufeinig yn fawr gan ei cholledion ym Mrwydr Adrianople, ac mae rhai ysgolheigion yn ystyried mai'r frwydr hon oedd dechrau dirywiad terfynol yr ymerodraeth. Canlyniad arall y frwydr a marwolaeth Valens oedd gwanhau [[Ariadaeth]] yn yr ymerodraeth; roedd Valens yn Ariad ond roedd ei
|