Brwydr Adrianople (378): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) ehangu |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 7:
Enillodd y Gothiaid nifer o frwydrau lleol, ac yn [[378]] daeth yr ymerawdwr yn y dwyrain, Valens, i'w gwrthwynebu. Roedd yr ymerawdwr yn y gorllewin, ei nai [[Gratianus]], ar y ffordd gyda byddin i gynorthwyo, ond mynnodd Valens ymladd cyn iddo gyrraedd. Ar [[9 Awst]] 378, gadawodd Valens a'i fyddin ddinas Adrianople a symud tua'r gogledd i ymosod ar wersyll y Gothiaid. Cyrhaeddasant tua 14:30, a dechrau'r ymosodiad. Roedd y Gothiaid wedi trefu eu wagenni mewn cylch amddiffynnol, a gofynnodd Fritigern am drafodaethau i geisio oedi'r ymosodiad Rhufeinig, gan wybod fod ei wŷr meirch allan o'r gwersyll.
Pan ddychwelodd y marchogion Gothaidd, ymosodasant ar ddwy ystlys y fyddin Rufeinig. Gorchfygwyd Valens a'i ladd. Credir i rhwng 10,000 ac 20,000 o filwyr Rhufeinig gael eu
|