Oran: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
:''Erthygl am y ddinas yn Algeria yw hon. Gweler hefyd [[Oran (gwahaniaethu)]].''
 
Dinas ar lan y [[Môr Canoldir]] yng ngogledd-orllewin [[Algeria]] yw '''Oran''' ([[Arabeg]]: '''وهران''', ynganer ''Wahran''; weithiau '''Ouahran''', [[Sbaeneg]]: ''Orán''). Daw'r enw "Oran" o enw [[Twrceg]] sy'n golygu "caer hardd". Sefydlwyd y ddinas yn 903 gan fasnachwyr o [[Al-Andalus]] ([[Andalucia]] yn [[Sbaen]] heddiw). Dan [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]] Oran oedd y ddinas fwyaf gorllewinol yn yr ymerodraeth honno. Yn y cyfnod pan reolwyd Algeria gan [[Ffrainc]], o ganol y 19eg ganrif hyd y 1960au, bu Oran yn ''préfecture'' ''[[département]]'' o'r un enw. Heddiw mae'n brifddinas weinyddol ''wilaya'' (talaith) [[Oran (talaith)|Oran]]. Mae gan y ddinas boblogaeth o tua 1 miliwn o bobl, ond os cynhwysir yr ardaloedd dinesig ceir poblogaeth o tua 2 miliwn, sy'n ei gwneud y ddinas ail fwyaf yn Algeria. Mae Oran yn borthladd o bwys, ac ers y 1960au mae wedi bod yn ganolfan fasnachol, diwydiannol ac addysgol i orllewin Algeria. Efallai mai [[cerddoriaeth Rai]] yw cynnyrch diwylliannol enwocaf Oran.
 
===Dolenni allanol===