Caer Drewyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llun (ffynhonnell: http://www.geograph.co.uk/photo/561128 dan drwydded Creative Commons)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Bryngaer]] o [[Oes yr Haearn]] 1 filltir i'r gogledd o [[Corwen|Gorwen]] yn ne [[Sir Ddinbych]] yw '''Caer Drewyn''' (weithiau '''Caer Drewin'''). Fe'i lleolir ar fryn uwchlaw [[Dyffryn Edeirnion]] ar uchder o tua 280 medr. Wrth waelod y gaer mae cymuned fechan Pentre Trewyn. Cyfeirnod OS: SJ 087 444.
 
[[Delwedd:Caer Drewyn.jpg|250px|bawd|Caer Drewyn]]
 
Rhed [[Afon Dyfrdwy]] islaw. O safle'r fyngaer ceir golygfeydd eang o Ddyffryn Edeirnion ac o'r mynyddoedd i'r gorllewin a'r gogledd. Mae'r llwybr i fyny'r dyffryn wedi bod yn dramwyfa bwysig ers gwawr hanes a diau fod lleoliad strategol y gaer fawr hon, ar drofa yn y dyffryn, yn adlewyrchu hynny. Mae'r gaer yn gorwedd ar y ffin rhwng tiriogaeth y [[Deceangli]] i'r gogledd a'r [[Ordovices]] i'r de.