Islwyn Ffowc Elis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B canrifoedd a Delweddau using AWB |
→Bywyd a gwaith: Ychwanegu infobox person/wikidata, replaced: ugeinfed ganrif → 20g using AWB |
||
Llinell 12:
Ymddiswyddodd o’r weinidogaeth yn 1956 gan fentro ar gyfnod o chwe mlynedd a hanner heb swydd gyflogedig i’w gynnal ef a’i deulu, sef ei wraig Eirlys a’i ferch Siân. Yn hytrach enillai ei damaid o’i gynnyrch llenyddol, o’i waith darlledu ac ambell i gyfnod o waith cynhyrchu i’r [[BBC]].<ref>Llwyd t 57</ref> Ef oedd y cyntaf i geisio cynnal ei hunan fel llenor Cymraeg proffesiynol, a phrin yw’r rhai hynny a lwyddodd i efelychu ei gamp ers hynny, o leiaf hyd at ddyddiau twf [[S4C]].<ref>[http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_3120000/newsid_3128600/3128691.stm 'Talu teyrnged i Islwyn Ffowc'], gwefan y BBC, adalwyd 31 Mai 2008</ref>
Ers yr ail ryfel byd roedd nofelau Saesneg ysgafn poblogaidd clawr papur, diwylliant America a dulliau newydd cyfathrebu yr
Yr oedd peth o’i gynnyrch ysgafnaf hefyd wedi tynnu llid rhai beirniaid llenyddol yn ei ben, yn enwedig ''Y Gromlech yn yr Haidd'' ac ''Eira Mawr'' a ysgrifennodd yn ystod ei ail gyfnod o lenydda llawn amser rhwng [[1971]] a [[1975]].<ref name="Stephens" /><ref name="BBC" /><ref>Llwyd t. 90</ref> Yn ogystal â nofelau, ysgrifennai hefyd ganeuon a sgriptiau [[radio]] a [[teledu|theledu]], i gyd yn cyfrannu at ddiwylliant poblogaidd. Ymhlith ei sgriptiau roedd ''Rhai yn Fugeiliaid'' (1962), sef y ddrama gyfres Gymraeg gyntaf ar gyfer y teledu.<ref>Llwyd tt 93, 105</ref> Cynhyrchodd lenyddiaeth heblaw am nofelau, yn gyfieithiadau megis ''Efengyl Mathew: trosiad i Gymraeg diweddar'' (1961), yn ysgrifau, yn llyfrau academaidd, gan olygu cyfrolau eraill megis ''Edward Tegla Davies: Llenor a Phroffwyd'' (1956).
|