R. Tudur Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Ychwanegu infobox person/wikidata, replaced: Ugeinfed Ganrif → 20g (2) using AWB
Llinell 18:
Gwnaeth Tudur enw iddo ef ei hun yn ogystal ym maes cyhoeddi hanes crefydd yn Saesneg. Ei gyfrol orchestol gyntaf (cyn unrhyw lyfr Cymraeg yn eironig ddigon) oedd 'Congregationalism in England, 1662-1962' (1962). Ystyrir y gyfrol hon fel un o'r rhai mwyaf awdurdodedig ar Hanes yr Eglwys Gynulleidfaol yn Lloegr. Daeth ei enw i amlygrwydd unwaith yn rhagor ym myd cyhoeddi hanes crefydd yn Saesneg, yn enwedig felly yn yr Unol Daleithiau, yn 1985 pan gyhoeddodd gyfrol ar y Diwygiad Protestannaidd, 'The Great Reformation, from Wycliffe to Knox', yn 1985. Fe ail-gyhoeddwyd y gyfrol hon gan Wasg Bryntyrion yn 1997.
 
Erbyn y saithdegau symudodd ei ddiddordeb ymchwil rywfaint o gyfnod y Piwritaniaid i gyfnod llawer mwy diweddar sef crefydd yng Nghymru yn oes Fictoria. Ffrwyth yr ymchwil yma oedd cyhoeddi dwy gyfrol sylweddol yn dwyn y teitlau 'Ffydd ac Argyfwng Cenedl: Hanes Crefydd yng Nghymru, 1890-1914', cyhoeddwyd y gyfrol gyntaf yn 1981 ac fe'i dilynwyd gan yr ail flwyddyn yn ddiweddarach. Mae peth anghytundeb ynglŷn ac arwyddocâd y cyfrolau hyn gyda rhai fel R. Geraint Gruffydd yn dadlau '...anodd meddwl nad y gwaith hwn a gyfrifir yn fwyaf arwyddocaol...' tra bod eraill yn dal mae 'Hanes yr Annibynwyr' oedd ei magnus opus gan ddadlau fod amgylchiadau'r cyfnod, pleidlais na '79, yn gysgod dros Tudur ar y pryd ac y bydda'i gasgliadau fymryn yn wahanol petai wedi ei ysgrifennu wedi Refferendwm 1997. Boed hon y gyfrol orau neu beidio ganddo does dim gwadu fod ynddo ddadansoddiad manwl a chraff o'r newid crefyddol a ddigwyddodd yng Nghymru droad yr Ugeinfed Ganrif20g. Gwerth nodi fod yr ail gyfrol yn cynnwys penodau gwerthfawr iawn yn adrodd hanes Diwygiad 04-05. Mae'r ddwy gyfrol yma wedi eu cyfieithu a'u cyhoeddi fel un cyfrol Saesneg, unwaith yn rhagor wedi ei olygu gan [[Robert Pope]] a'i cyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2004.
 
== Gwleidyddiaeth a newyddiaduraeth ==
Llinell 27:
Roedd ei rôl fel arweinydd Eglwysig oedd a daliadau uniongred wedi ei asio a newyddiaduraeth a'i ymwnelo a Phlaid Cymru yn ei wneud yn ffigwr nid annhebyg i'r gwladweinydd [[Calfinaidd]] o'r [[Iseldiroedd]] [[Abraham Kuyper]] yn ôl Bobi Jones. Byddai Tudur yn gosod ei hun ar y sbectrwm diwinyddol yn agos at Kuyper a Chalfinwyr yr Iseldiroedd ond fe frysia R. Geraint Gruffydd i bwysleisio mai ei '...ddyn ei hun...' oedd Tudur a'i fod yn ddigon o feddyliwr i allu dod i'w gasgliadau ei hun. Ategu hyn a wna D. Densil Morgan pan ddywed "ategu'r syniadaeth a oedd ganddo eisoes a wnaeth Kuyper a'i ddisgyblion, ac ni fu Tudur erioed yn slafaidd ddyledus iddynt". Down i'r casgliad felly bod Tudur yn uniongred Brotestannaidd ond ei fod yn wahanol i'r grwpiau Protestannaidd hynny megis y Pietistiaid a dueddai, yng ngeiriau Tudur ei hun, i "ymddeol a gadael y ddaear a'i diwylliant i elynion Duw". Roedd a wnelo diwinyddiaeth Tudur â'r byd yma yn ogystal â'r byd nesaf.
 
Erbyn yr wythdegau roedd Tudur yn ffigwr crefyddol o bwys rhyngwladol. Ef oedd llywydd Cynghrair Annibynwyr y Byd rhwng 1981-85 ac yn gymedrolwr Cyngor Eglwysi Rhyddion Lloegr a Chymru 1985-6. Ddechrau'r nawdegau fe'i gwahoddwyd, yn un o ugain yn unig, i gyfarfod tyngedfennol yn hanes undod efengylaidd ym Mhrydain i bwyso a mesur yr ymateb i Fendith Toronto; ef a ddaeth, gyda'i falans o gariad a doethineb, a heddwch i'r trafodaethau. Fe'i gipiwyd gan drawiad calon a hynny yn gwbl anisgwyliedig fis Gorffennaf 1998. Roedd yng nghanol gwaith sylweddol arall pan aeth at ei waredwr, cyfrol ar hanes Cristnogaeth yng Nghymru. Erys y teyrngedau iddo gan ei wrthwynebwyr diwinyddol yn ogystal a'i gefnogwyr i R. Tudur Jones fod yn ffigwr sylweddol yn hanes crefyddol, cymdeithasol a gwleidyddol Cymru'r ugeinfed ganrif20g.
 
== Ffynonellau ==