Winnie Parry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up using AWB
Ychwanegu infobox person/wikidata, replaced: ugeinfed ganrif → 20g (2) using AWB
Llinell 1:
Awdur Cymraeg oedd '''Sarah Winifred Parry''' ([[20 Mai]], [[1870]] - [[12 Chwefror]], [[1953]]) sydd fwyaf adnabyddus am ddatblygu'r stori fer Gymraeg modern. Daeth yn enw cyfarwydd gyda'i ffuglen a gyhoeddwyd mewn penodau mewn cyfnodolion ar droad yr ugeinfed ganrif20g. Cafodd ei gwaith mwyaf enwog, ''Sioned'', a gyhoeddwyd yn gyntaf fel cyfres rhwng 1894 a 1896 ei gyhoeddi fel nofel ym 1906 a chafodd ei ailgyhoeddi yn 1988 a 2003.<ref>[http://yba.llgc.org.uk/cy/c4-PARR-WIN-1870.html '''PARRY, SARAH WINIFRED '''(‘'''Winnie Parry''' ’; 1870 - 1953)]</ref>
 
== Cefndir ==
Llinell 13:
O dan anogaeth [[Owen Morgan Edwards|O M Edwards]] ac Edward Ffoulks, dechreuodd cyfrannu i gylchgronau [[Cymru (cylchgrawn)|Cymru]], [[Cymru’r Plant]] a’r [[Y Cymro|Cymro]].   Cafodd ei nofel fwyaf adnabyddus, Sioned, ei gyhoeddi gyntaf mewn penodau yn y cylchgrawn Cymru rhwng 1894 a 1896<ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/3098817|title=Notitle - Merthyr Times and Dowlais Times and Aberdare Echo|date=1895-06-20|accessdate=2017-03-18|publisher=[Merthyr Times Printing Co.]}}</ref>. Er na chyhoeddwyd Sioned ar ffurf nofel hyd 1906 (blwyddyn ar ôl ''Gorlannau'r Defaid'' gan [[Annie Harriet Hughes (Gwyneth Vaughan)|Gwyneth Vaughan]]), o ddyddiad ei gyhoeddi fel cyfres, dyma’r nofel Cymraeg cyntaf i’w gyhoeddi gan fenyw.
 
Ym 1896, ysgrifennodd gyfres o'r enw ''Catrin Prisiard'' a ymddangosodd yn Y Cymro a gyhoeddwyd hefyd yn [[The Cambrian (Cymru)|The Cambrian]] a Chymru. Yn ystod ei chyfnod mwyaf toreithiog, daeth Winnie Parry yn enw cyfarwydd yng Nghymru oherwydd poblogrwydd ei ffuglen a’u herthyglau. Erbyn troad yr ugeinfed ganrif20g roedd Parry yn awdur benywaidd mwyaf nodedig y stori fer a oedd yn adlewyrchu bywyd bob dydd yng Nghymru mewn araith lafar, a thrwy hynny daeth yn ddylanwad mawr ar awduron benywaidd diweddarach megis [[Elizabeth Mary Jones (Moelona)|Moelona]] a [[Kate Roberts]].<ref>{{cite book|ref=harv|last=Koch|first=John T.|title=Celtic Culture: A Historical Encyclopedia|url=https://books.google.com/books?id=f899xH_quaMC&pg=PA1787|volume=I: A-Celti|year=2006|publisher=ABC-CLIO|location=Santa Barbara, California|isbn=978-1-85109-440-0}}</ref>
 
Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, ceisiodd E Morgan Humphreys ei pherswadio i ail gyhoeddi Sioned a cheisiodd y [[BBC]] addasu peth o’i gwaith ar gyfer [[Awr y Plant]].