Celyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Geirdarddiad: clean up
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
mewnforio tesun newydd o Llen y Llysiau
Llinell 26:
 
Mae'n frodorol o orllewin a de [[Ewrop]], gogledd-orllewin [[Affrica]] a de-ddwyrain [[Asia]],<ref name=fe>Flora Europaea: [http://rbg-web2.rbge.org.uk/cgi-bin/nph-readbtree.pl/feout?FAMILY_XREF=&GENUS_XREF=Ilex&SPECIES_XREF=aquifolium&TAXON_NAME_XREF=&RANK= ''Ilex aquifolium'']</ref><ref name=mc>Med-Checklist: [http://ww2.bgbm.org/mcl/PTaxonDetail.asp?NameId=1263&PTRefFK=1273 ''Ilex aquifolium'']</ref> ac fe'i gwelir yn aml mewn llefydd cysgodol, yn enwedig mewn coedwigoedd o goed ffawydd. Er hyn, gall addasu i gynefinoedd, amgylchiadau a hinsawdd gwahanol yn enwedig ar ffiniau coedwigoedd.
 
Llwyn neu goeden fach, bythwyrdd, y dail isaf yn bigog, y rhai uchaf yn llai felly. Y blodau gwryw a benyw yn tyfu ar goed gwahanol. Yr aeron (ar y coed benywaidd) yn wyrdd i ddechrau ac wedyn yn goch. Aeron y celyn yw'r rhai mwyaf parhaus o holl aeron ein llwyni cynhenid, weithiau yn para ymhell heibio'r gaeaf i'r gwanwyn canlynol a hyd yn oed yr haf. Bonfreithod megis y gaseg ddrycin a'r socen eira sydd yn bennaf gyfrifol am eu parhad mae'n debyg trwy eu hamddiffyn rhag eraill. Coeden y goedwig a phridd cyfoethog ac ychydig o bori yw'r celyn.
 
 
==Ecoleg==
 
Nid yw'r gelynen yn dygymod yn dda a phori, ac fe ddiflana ar ôl troi anifeiliaid i goedwig am gyfnod.
 
 
===Rhywogaethau cysylltiol===
 
Bwyd i lindysyn glöyn y glesyn celyn ''Celastrina argiolus''. Y genhedlaeth gyntaf yn cael ei dodwy ar flagur blodau'r celyn yn y gwanwyn, a'r ail genhedlaeth ar flagur blodau'r eiddaw, sydd yn ymddangos yn hwyrach yn y flwyddyn.
 
 
Caiff ei heintio'n gyson gan y llifbryf ''Phytomyza ilicis''.
 
 
===Cymunedau llysieuol cusylltiol===
 
 
 
==Enwau==
 
;Enw safonol Cymraeg
 
celyn
 
;Enw Lladin (yn unol â dull Stace)
 
''Ilex aquifolium ''
 
;Enwau Cymraeg eraill gan nodi o ba ardal Dim?
 
;Tarddiad yr enwau, geiriau cysylltiedig a chytras
 
Hen Gernyweg: ''kelin, gl. ''ulcia'', Llydaweg: ''Kelen'', Gwyddeleg. Cuilenn: <Clt. Kolino-, cf. Saes. ''Holly'', taf. ''Hollin'', o'r gwraidd *''qel'', ''gwanu''
 
 
==Enwau Ileoedd, pobl, ac ati==
 
Wrth ddehongli enwau lleoedd dylid bod yn ymwybodol o'r dryswch posibl gyda'r Sant Celynin (Llangelynin, Tywyn; Aber Garth Celyn, sef hen enw honedig Abergwyngregyn), a chyda chyfeiriadau at "gelyn" (ee. Hafod y Gelyn, cwm Anafon, Llanfairfechan; Tafarn y Gelyn, Sir Ddinbych). Gall hefyd olygu pidyn neu cala. Mae [[''Clynnog'' Fawr]] yn Arfon yn golygu, efallai, lle yn gyforiog o gelyn.
 
 
Dyma ddadansoddiad o 105 o enwau sydd yn cynnwys celyn yn yr OS 1:10000 Gazeteer wedi eu dosbarthu yn ôl y gair mae'n goleddfu. Mae 14 o enwau yn gysylltiedig a thir sydd yn codi (bryn, boncyn, cam, gallt, ffridd, banc, esgair, rhos), 15 yn gysylltiedig a thir isel neu gysgodol (pant, maes, fron, cwm, dol, cil, glyn), 29 yn gysylltedig a thir coediog (llwyn, celynnog, perth, gallt, coed, gelli), a 36 yn gysylltedig ag anheddle (''ty(n)'', ''fferm, ''plas'', ''pentre'', ''bwthyn'', ''cwrt''). At ei gilydd, awgryma hyn efallai mai coeden oedd y gelynen a arferai gael ei gweld fel aelod o goedwig neu gyfar a estynnodd gysgod i'r ty ac na chaniatawyd da i fewn iddi (gweler 14.)
 
 
Mae'r enwau hyn yn digwydd yn weddol wastad ar draws de a gogledd Cymru. Eithriad yw'r ardaloedd lle maent yn denau neu'n absennol megis gorllewin Penfro, Llŷn a Môn, a'r gogledd ddwyrain lle maent yn fwy trwchus, yn arbennig Ile mae'r calch yn brigo ar fynyddoedd Clwyd.
 
 
Yn achos yr enw "Ty'n Celyn" ceir yn y Gazeteer 26 o achosion, 10 yn Sir Ddinbych, 7 yn Sir Conwy, 5 ym Mhowys, 2 yng Ngwynedd, ac 1 yng Nheredigion a Wrecsam. Ymddengys fod y patrwm hwn yn yn dilyn y tiroedd gorau.
 
 
Ystyr plas ''Celynnenau'' (ar lafar "Clenna") yn Eifionnydd yw 'nifer o goed celyn unigol'. Ystyr 1794 ''Celynawg'' yw 'cyforiog o gelyn' (=''abounding in holly''). Mae'n digwydd yn gyffredin fel enw lle, ee. Clynnog Fawr yn Arfon, Clynnog Fechan ger Llangeinwen, Mon, Glynnog ger y Gyffin, Caernarfon, Gelynnog ym mhlwyf Llantrisant, Morgannwg, &c.
 
 
Kylynen c. 1700, Lhuyd Paroch. II.43
 
 
Nant Cyflymed [sic] c. 1830, O.S.M. Nant fechan yn codi i'r gorllewin o Ros Pengwern ac yn rhedeg i'r Ddyfrdwy ychydig tu isaf i Langollen. Diamau mai'r un ydyw enw'r nant hon ag enw'r pren celynen .....am fod, yn of pob tebyg, amlder o'r cyfryw yn tyfu hyd ei glannau . Cyfyd nant fechan o'r enw Celyn (Meir.), Afon Gelyn (OSM), Kelin... yrn Mlaen Celyn ar Arennig Fechan, gan ddisgyn heibio i Bont ar Gelyn a Chapel Celyn i Dryweryn i'r gorllewin o Gil Talgarth. Yn y ffurf Cylynen gwelir y llafariad e yn y sillaf gyntaf ddiacen >y dywyll. Am ffurfiau mapiau Cyflymed, Cyflymen, ymgais ydynt i roi tro fransiol i'r enw.3
 
 
==Llen Gwerin==
 
*Aferion a choelion
 
Fe'i defnyddir yn gyffredin i addurno tai a lleoedd cyhoeddus dros wyliau'r Nadolig GPC
 
 
*Arferion plant
 
Dim wedi eu canfod eto
 
 
*Arwyddion tywydd a thymhorau
 
Dim wedi eu canfod eto
 
 
==Cyfeiriadau hanesyddol==
 
Mae'r cyfeiriadau canlynol o GPC</ref>http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html</ref>
 
• 13g. T21 3-4, pan yw glas kelyn
 
• id. 25 4, ffawyd ffynyessit, kelyn glessyssit [cyfeiriad diddorol at ecoleg y rhywogaeth hon a'i thuedd (gywir) i gydfyw â ffawydd? DB]
 
• 1346 IAA 124, a hwnnw arodes....yduw abeuno. Ydref ehun a elwit kellynnawc yn dragywydawl. Heb val a heb ardreth.
 
• 14g. Rbii. 262, Ac y diffeithwyt lleyn a [diwyg.] kelynawc uawr y gan howel vab Ieuaf ar saeson.
 
• 14g. R 1047 15-16, Kynn bu vygkylchet croennen rcliwygl gauyr galet. Kelyngar y llillen
 
• 14g. GDG 83, Y celynllwyn coel iawnllwyth.
 
• 1620 Mos 204, 21, bwrw gordd dan gelyn-llwyn.
 
• 13g. WM 117. 26-8 yr forest hir beunyd yd ai y mab y chware ac y daflu agaflacheu kelyn
 
• 14g. RB[WM] 202, 20-1, agwrysc kelyn yn amyl ar y llawr.
 
• ?15g. DGG 43 Dwy sêl o liw grawn celyn. • 1445-75 GG1 15, A bwrw gordd berw ac urddas / Awen dan gelynnen las.
 
• 15g. H 71a. 48, llys kelynen kelynnyc.
 
• 1547 WS, kelynen, holy
 
• 1608 GP 223, A ddoi di, a ddoi di oddiyna / i goed y glyn i gylyna [tybed pam yr eid "i gylyna"?]
 
• 1632 D(Bot.), celyn, ''aquifolium''.
 
• Digwydd fel enw person ''Celyn'' ar garreg Tywyn, c. 750 Arch. Camb (1949) 168, Cun Ben Celen, a hefyd yn y ff. fach. ''Celynnin''
 
 
==Meddygaeth==
 
Rhywogaeth o'r un genws, sef Ilex paraguariensis yn cael ei ddefnyddio fel ''mate'' (diod) yn ne America (gan y Cymru?). Mae'r dail yn cynnwys caffin sydd yn gweithredu i fywiogi'r system nerfol a chyhyrol. Maent hefyd efo rhinweddau diwretig.
 
 
Cynhwysa'r aeron y tocsin ilicin sydd yn achosi cyfog a dolur rhudd. Dim achosion o wenwyno anifeiliaid wedi eu cofnodi and gall gymeryd rhagor na 20 o aeron achosi symptomau ilicin. Os cymerir niferoedd mawr o aeron dylid achosi cyfogi gyda emetig addas fel surop ipecacuanha.2
 
 
==Defnydd==
 
 
;Bwyd
 
Mae cynnwys caloriffig uchel i'r dail, a'r tyfiant ifanc wedi bod yn cael ei dorri i borthi anifeiliaid, yn enwedig defaid [MT].
 
 
;Offer
 
Pren caled gwyn y niweidir gan ormod o olau [ ]. Defnyddir hi yn bennaf ar gyfer addurn ac mewn osod (inlay) i bren arall.
 
 
Mae'r pren yn galed a thrwm, efo graen clos iawn, o liw gwyn, addas ar gyfer turnio o bob math.
 
 
Mewn gwaith addurniadol mewnosod (inlay) defnyddir yn lle pren bocs ac wedi ei lifo'n ddu yn lle eboni.
 
 
Coeden dda i wneud ffyn ohonni, a chan fod hen gred fod ganddi rym hudol dros geffylau, i wneud chwipiau i'w gyrru [MT].
 
 
;Arall
 
Roedd gan John Evelyn yn ei ''Sylva'' enwog rysait am wneud glud adar (''bird lime'') o risgl celyn. Rwyf innau'n cofio fel plentyn yn y 30au yn gweld dynion yn Llanfrothen yn ceisio dal llinosiaid a nicos ar frigau gludiog efo llinos mewn cawell i'w dennu [MT].
 
 
==Gerddi==
 
Y mwyaf deniadol a defnyddiol o'n coed bythwyrdd brodorol yn yr ardd. Mae dros driugain o amrywiadau ar gael, yr euron yn amrywio yn eu lliw o felyn, trwy oren, i'r coch cyffredin, y dail hwythau o fod yn bigog iawn, hyd yn oed ar wyneb y ddeilen i fod yn hollol lyfn, a'r lliw o fod yn frith felyn llachar i frith arian, i'r gwyrdd tywyll sgleiniog cyffredin [MT].
 
 
==Addurn a delweddau/symbolaeth==
 
Poblogaidd iawn fel addyrn y Nadolig. Arferiad cyn-gristnogol mae'n debyg, oherwydd arwyddocad ei wyrddni gefn gaeaf (fel yr eiddaw). Dros wyliau'r Nadolig, cymysgedd o arferion efo'r amseriad, yn enwedig o gwmpas pryd i'w tynnu i lawr, yr Hen Galan (6ed Ionawr) erbyn hyn, and Gwyl Fair y Ganhwyllen (2 Chwefror) mewn rhai llefydd gynt, a son yn Ynys Manaw am ei cadw tan Ddydd Mawrth Crempog (Ynyd), a'i defnyddio'n grin i wneud crempog, defnydd da o'i wres anarferol hwyrach [MT].
 
 
==Teithi tramor==
 
''Houx yn Ffrangeg''.
 
 
==Hanesyddol ac archaeolegol==
 
 
 
==Awduron==
 
Duncan Brown, y diweddar Maldwyn Thomas (MT), Ann Daniels (AD)
 
 
==Cyfeiriadau, ffynonellau, Ilyfryddiaeth==
 
*Girre L. (2001) Les Plantes et !es Medicaments Paris 2
 
*Cooper M. & Johnson A. (1984) Poisonous Plants in Britain and their effects on Animals and Man HMSO *Geiriadur Prifysgol Cymru 3
 
*Thomas R.J. (1938) Enwau Afonydd a Nentydd Cymru Caerdydd
 
 
 
 
Sent from Yahoo Mail for iPhone
 
 
==Geirdarddiad==