Austell: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cym
→‎top: Ychwanegu infobox person/wikidata using AWB
Llinell 3:
Meudwy a sant o'r [[6g]] a fu'n byw yng [[Cernyw|Nghernyw]], [[Cymru]] a [[Llydaw]] oedd '''Austell''' (neu '''Austel'''). Enwyd y dref [[St Austell]] yng Nghernyw ar ei ôl. Mae ei ddydd Gŵyl ar [[28 Mehefin]], wythnos ar ôl ei gyfaill Mefen.
 
Ymddengys yr enw'n gyntaf mewn rhestr o seintiau [[Cernyw]] yn y ''Codex Reginensis Latinus'' 191 o'r [[10g]], yn y [[Fatican]], gyda'r sillafiad 'Austoll'.<ref>Gweler: R.L.Olson and O.J.Padel in CMCS 12 (1986) tud.59.</ref> Erbyn 1150, roedd y sillafiad wedi newid i '''Austolus''' erbyn 1150.
 
Cysylltir Austell gyda sant o'r enw Mewn (neu 'Muen'), yng Nghernyw ac yn [[Llydaw]] e.e. yn enw'r pentrefi [[:br:Sant-Fieg-ar-Mewan|Sant-Fieg-ar-Mewan]] a [[:br:Sant-Meven|Sant-Meven]]. Yng Nghernyw a Llydaw, rhoddodd Austell a Mefen eu henwau ar blwyfi sy'n ffinio â'i gilydd ac roedd gan Austell gwlt cryf yn Abaty Saint-Méen ac a elwir yn Llydaweg yn '[[Sant-Neven]]').
 
Mae'n bosibl iddo roi ei enw y bentref [[Llanawstl]] ym [[Machen]], [[Gwent]], ond mae hefyd yn bosibl mai cyfeiriad at [[Hawystl]] sydd yma.