Llanfarchell: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dweud unwaith
Ychwanegu infobox person/wikidata using AWB
Llinell 62:
Ystyrir '''Eglwys y Santes Marchell''' (hefyd '''yr Eglwys Wen''' neu '''Llanfarchell''') yn un o'r 'eglwysi plwyf canoloesol godidocaf yn Sir Ddinbych'; fe'i cofrestrwyd gan Cadw yn Radd I ar 24 Hydref 1950.<ref>[http://medieval-wales.com/cy/site_31_denbigh_welsh.php medieval-wales.com;] adalwyd 28 Mawrth 2017.</ref> Cofnodwyd bod ei nawddsant, [[Marchell Forwyn]], wedi dewis man ger ffynnon sanctaidd yma yn y [[7g]], ystyrid hi'n lleian arbennig o gysegredig. Llanfarchell fu eglwys plwyf Dinbych erioed a'i heglwys cyntaf; ni ddatblygodd Dinbych ryw lawer hyd at ddiwedd y [[13g]]. Dymchwelwyd y gwreiddiol ac fe'i hailgodwyd ar ffurf eglwys ddau gorff ar ddiwedd y [[15g]], gyda thŵr trawiadol a ffenestri perpendicwlar mawr, rhai o'r [[Oesoedd Canol]].
 
Mae'r eglwys yn ffinio gydag [[Afon Clwyd]], oddeutu 1.5 &nbsp;km i'r de-dwyrain o dref Dinbych, i gyfeiriad [[Bryniau Clwyd]], ar lawr gwastad Dyffryn Clwyd. Yn 1254 cyfeirir ati fel ''L(l)annvarcell''.<ref>[http://www.cpat.org.uk/ycom/denbigh/llanfarchell.pdf Adroddiad gan CPAT cpat.org.uk;] adalwyd 28 Mawrth 2017.</ref> Yn ôl rhai, dyma un o'r eglwysi plwyf mwyaf urddasol o'r [[Oesoedd Canol]] cynnar, ac fel llawer o eglwysi Dyffryn Clwyd mae ganddi ddau gorff. Ceir ffenestri lliw hefyd o'r Canol Oesoedd a chofebau i fawrion Sir Ddinbych gan gynnwys [[Humphrey Llwyd]] (m.1568) a [[Richard Myddelton]] (m.1575). Roedd yma ar un adeg [[ffynnon]] sanctaidd a phoblogaidd iawn, sydd bellach o dan cylchdro'r ffyrdd, ar y ffordd i [[Rhuthun|Ruthun]].<ref>[http://medieval-wales.com/site_31_denbigh.php medieval-wales.com;] adalwyd 28 Mawrth 2017.</ref> Yma hefyd mae bedd [[Twm o'r Nant]].
 
Ceir santes arall, ar wahân i Farchell sant o'r enw ''Marcellus''. Ni cymysgu'r eglwys hon chwaith, gydag [[Ystrad Marchell]], [[cwmwd]] ym [[Powys Wenwynwyn|Mhowys Wenwynwyn]].
 
==Pensaerniaeth a chofebau==
Llinell 91:
 
{{CominCat|St Marcella's Church, Llanfarchell|Lanfarchell}}
 
[[Categori:Seintiau Cymru]]
[[Categori:Cymry'r 7fed ganrif]]