El Haouaria: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
→‎top: Ychwanegu infobox person/wikidata, replaced: chweched ganrif → 6g using AWB
Llinell 8:
Ym misoedd Mai a Mehefin, daw nifer o ornitholegwyr i'r rhan yma o'r Cap Bon er mwyn gweld yr adar niferus sy'n aros yno i ddal thermal i'w cludo dros [[Culfor Sisili|Gulfor Sisili]] i'w tir nythu yn Ewrop.
 
Bu'r chwareli Ffeniciaidd, a adnabyddir fel y ''Grottes romaines'' (Ogofâu Rhufeinig) yn ffynhonnell ar gyfer adeiladau [[Carthago]] ers y chweched ganrif6g CC. Arferid dwyn y cerrig ar longau dros [[Gwlff Tiwnis]] i Garthago. Mae'r garreg yn [[tywodfaen|dywodfaen]] melyn sy'n hawdd i'w dorri a'i drin. Yn ogystal, mae'r chwareli ar ymyl y môr ac felly roedd y cerrig yn hawdd i'w symud oddi yno. Defnyddiwyd ''les grottes'' gan y Rhufeiniaid yn eu tro. Canlyniad dros fil o flynyddoedd o weithio'r chwareli yw cyfres o ogofâu mawr a gysylltir gan dwneli dan y graig. Torrywd siafftiau i adael golau'r dydd i mewn.
 
Yn y môr gyferbyn â safle'r chwareli mae ynysoedd [[Zembra]] a [[Zembretta]].