Slafiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up, replaced: 16eg ganrif → 16g using AWB
Ychwanegu infobox person/wikidata, replaced: ddegfed ganrif → 10g, seithfed ganrif → 7c, chweched ganrif → 6g using AWB
Llinell 4:
 
== Y famwlad Slafaidd ==
Er ei bod yn eglur bod y famwlad Slafaidd gyntefig rhywle yn Nwyrain Ewrop, mae dadleuon ymysg ysgolheigion am ei lleoliad pendant. Gwyddys i'r Slafiaid wladychu ardal y Balcaniaid a'r rhan fwyaf o [[Rwsia]] yn ystod y cyfnod hanesyddol. Yn ôl y farn fwyaf cyffredin, lleoliad y famwlad Slafaidd oedd ar hyd canol yr [[afon Dnieper]], ardal sydd heddiw yn cyfateb i ogledd canol a gorllewin [[Wcráin]] a de [[Belarws]]. Mae'n amhosibl ail-lunio unrhyw dermau morwrol (er enghraifft, gair am 'cwch' neu 'angor') na gair am 'ambr' yn y gyn-iaith Slafaidd. Mae hyn yn sail i gredu nad oedd y famwlad yn cyrraedd glanau'r Baltig. Nid yw ffynonellau Rhufeinig yn crybwyll y Slafiaid cyn y chweched ganrif6g. Unwaith eto, mae hyn yn awgrymu nad oedd yna ddim Slafiaid ar gyrion gogleddol yr [[Ymerodraeth Rufeinig]]. Mae tystiolaeth ieithyddol yn dangos hefyd bod y Slafiaid cynnar mewn cysylltiad clòs am beth amser â phobloedd Iranaidd a Germanaidd. Mae nifer o eiriau am gysyniadau crefyddol (er enghraifft y geiriau [[cyn-Slafoneg]] am 'duw' a 'paradwys') wedi'u benthyg gan y gyn-iaith Iranaidd. Roedd llwythi Iranaidd (y [[Scythiaid]] a'r [[Sarmatiaid]]) yn trigo i'r gogledd o'r [[Môr Du]] yn ail hanner y mileniwm cyntaf CC, a [[Gothiaid]] yn yr un ardal yn ddiweddarach. Mae'r dystiolaeth hyn i gyd yn ddilys â lleoliad i'r famwlad Slafonaidd i'r gogledd o'r llythi hyn, ond heb fod mor bell â Môr Baltig. Mae hyn yn agos iawn at y famwlad Indo-Ewropeaidd ei hun.
 
== Yr ymfudiadau Slafaidd ==
Erbyn y chweched a'r seithfed ganrifoedd7coedd OC, yn ôl haneswyr Rhufeinig a Groeg, fel Jordanes yn ei hanes o'r Gothiaid 'De origine actibusque Getarum' a Procopius yn ei ysgrifau yntau, cartref y llythi Slafaidd oedd yr ardal i'r gogledd o'r afon [[Donaw]] (Donwy), mewn rhwymyn o dir rhwng y [[Fistwla]] uchaf a'r afon [[Dnepr]] ([[Wcrain]] a [[Gwlad Pwyl]] heddiw). O'r bumed i'r ddegfed ganrif10g roedd ffiniau tiriogaeth y Slafiaid yn ystwyth iawn. Yn ystod y cyfnod hwn, ehangodd y Slafiaid eu tiriogaeth yn sylweddol, gan ymfudo o'u mamwlad ym mhob cyfeiriad, a dechreuodd eu iaith ymrannu i greu'r tair cangen a welir heddiw. Daeth yr ymfudiadau hyn â'r Slafiaid i'r gogledd a gogledd-ddwyrain ([[Rwsia]] heddiw), lle daethant mewn cysylltiad â phobloedd Baltaidd a Ffinno-Wgraidd. Yn y De, croesasant yr afon [[Donaw]] i gyrraedd tiroedd yr[[Ymerodraeth Fysantaidd]] ac ymsefydlu yng ngwledydd heddiw Slafiaid y De ([[Bwlgaria]], [[Serbia]], [[Croatia]] ayyb). Yn y gorllewin, ymgartrefodd y Slafiaid ar lannau'r [[Môr Baltig]] gan gymysgu â llwythi Baltaidd a Germanaidd hyd at ogledd a dwyrain yr [[Almaen]]. Fel hyn y mae'r [[Brut Cynradd Rwsieg]] yn disgrifio'r sefyllfa:
 
Dros cyfnod hir gwladychodd y Slafiaid ar lannau'r Donaw, lle mae'r tiroedd Hwngaraidd a Bwlgaraidd yn gorwedd heddiw. O blith y Slafiaid hyn, ymwasgarodd carfannau dros y wlad, ac fe'u hadnabuwyd gan enwau perthnasol, yn ôl y llefydd a wladychodd. Felly daeth rhai i wladychu ger yr afon Morava, ac fe'i henwyd yn [[Morafia]]id, tra i eraill gael eu henwi'n Tsieciaid.