Hanes Ynys Manaw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
→‎top: Ychwanegu infobox person/wikidata, replaced: nawfed ganrif → 9g using AWB
Llinell 3:
Mae '''hanes Ynys Manaw''' yn hanes dylanwadau o'r gwledydd o'i chwmpas, yn enwedig [[yr Alban]] a [[Lloegr]], ac hefyd ddylanwadau [[Llychlyn]]naidd cryf. Daeth [[Ynys Manaw]] yn ynys tua 8500 o flynyddoedd yn ôl wrth i lefel y môr godi. Hyd hynny roedd cysyslltiad tir gydag ardal [[Cumbria]]. Ychydig o gofnodion hanesyddol sydd ar gael o'r cyfnodau cynnar pan ymddengys bod poblogaeth yn siarad iaith Frythonig yn byw yno. Cofnodir i [[Edwin, brenin Northumbria]] ymosod ar yr ynys yn [[616]]. O gwmpas y [[10g]] ymsefydlodd gwladychwyr o [[Iwerddon]] a datblygodd [[Manaweg]], sy'n iaith Oidelig tebyg i [[Gwyddeleg|Wyddeleg]]. Yn ôl traddodiad, daeth [[Sant Maughold]] (Maccul) o Iwerddon a Christionogaeth i'r ynys. Credir fod enw'r ynys yn dod o enw duw môr [[y Celtiaid]], [[Manannán mac Lir]].
 
Yn ôl y traddodiad barddol, daeth [[Merfyn Frych]], a ddaeth yn frenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] tua [[825]], o "Fanaw", ond mae'n ansicr a yw hyn yn cyfeirio at Ynys Manaw neu at hen deyrnas [[Manaw Gododdin]] (yn Yr Alban heddiw). Ar groes ar Ynys Manaw mae arysgrif ''Crux Guriat''. Credir fod y groes yn dyddio o'r wythfed neu'r nawfed ganrif9g, felly mae'n bosibl mai tad Merfyn oedd y "Guriat" yma.
 
Dechreuodd y Llychlynwyr ymosod ar yr ynys rhwng [[800]] ac [[815]], ac o tua [[850]] ymlaen daeth dan reolaeth brenhinoedd Danaidd [[Dulyn]]. O tua 990 daeth yn eiddo Ieirll Orkney. Cynhyrchwyd darnau arian ar yr yns rhwng tua 1025 a tua 1065. Yn [[1079]] goresgynwyd yr ynys gan [[Godred Crovan]] oedd hefyd wedi goresgyn rhannau o Iwerddon, a sefydlodd linach o frenhinoedd gyda'r teitl ''[[Teyrnas Manaw a'r Ynysoedd|Rex Manniae et Insularum]]''. Roedd mab Godred, [[Olaf I, brenin Ynys Manaw|Olaf]], yn frenin nerthol a llwyddodd i gadarnhau annibynniaeth yr ynys.