Ynys Môn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Diwylliant: clean up, replaced: 12fed ganrif → 12g using AWB
→‎Y cyfnod diweddar: Ychwanegu infobox person/wikidata, replaced: deunawfed ganrif → 18g, y d18g → y 18g using AWB
Llinell 145:
Bu llawer o ymladd ar yr ynys adeg y [[rhyfel cartref]] rhwng y brenin ac [[Oliver Cromwell]]. Y teulu mwyaf dylanwadol ar yr ynys yn y cyfnod yma, a hyd ddechrau'r [[19g]], oedd [[Bulkeley (teulu)|teulu Bulkeley]], [[Baron Hill]] ger Biwmares.
 
Ar [[2 Mawrth]] [[1768]] cafwyd hyn i haen fawr o gopr ym [[Mynydd Parys]] ger Amlwch. Erbyn y 1780au Mynydd Parys oedd yn cynhyrchu'r mwyafrif o gopr y byd. Erbyn [[1778]] roedd y cwmni yn cael ei redeg gan [[Thomas Williams, Llanidan]], a ddaeth yn un o ddiwydianwyr mwyaf ei gyfnod. Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif18g roedd poblogaeth Amlwch wedi cynyddu i tua 10,000, gan ei gwneud yr ail dref yng Nghymru ar ôl [[Merthyr Tudful]]. Estynnwyd yr harbwr gwreiddiol i wneud lle am longau mwy ar gyfer y fasnach cludo mwyn copr.
 
Hyd at ddechrau'r [[19g]], roedd yn rhaid defnyddio'r fferi i groesi o'r tir mawr i Fôn. Fferi [[Bangor]] i [[Porthaethwy|Borthaethwy]] oedd y bwysicaf ohonynt, ac mae cofnod i [[Elisabeth I o Loegr]] osod yr hawl i un John Williams yn [[1594]]. ‘Roedd Undeb [[Prydain Fawr]] gydag [[Iwerddon]] wedi creu galw am gryfhau’r cysylltiad ymarferol rhwng [[Llundain]] a [[Dulyn]]. Wedi sefydlu pwyllgor seneddol, comisiynwyd [[Thomas Telford]] i adeiladu pont dros Afon Menai ac i wella safon y ffyrdd yr holl ffordd o [[Llundain|Lundain]] i [[Caergybi|Gaergybi]]. Cychwynnwyd ar y gwaith o adeiladu [[Pont y Borth]] ar [[10 Awst]] [[1819]] wrth osod y garreg sylfaen. Agorwyd y bont i’r cyhoedd (er bod angen talu toll) am 1.35am ar [[30 Ionawr]] [[1826]].