Cors Ddyga: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Nifer o fan gywiriadau gramadegol
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
→‎Disgrifiad: Ychwanegu infobox person/wikidata using AWB
Llinell 19:
 
==Disgrifiad==
Dwy gors arwahan yw Cors Ddyga a Chors Malltraeth. Mae'r gyntaf yn lygriad o ''Cors Tygai'', ar ôl y sant a roes ei enw i Llandygai.
 
Mae Cors Ddyga yn ymestyn rhwng ochrau Pentre Berw a Llangaffo, ochr ddwyreiniol i'r Afon Fawr (aber yr Afon Cefni gynt). Mae Cors Malltraeth yn ymestyn o ochrau Trefdraeth, Bodorgan i'r gorllewin o bentref [[Malltraeth]] ac yn ymestyn bron hyd at dref [[Llangefni]] yng nghanol yr ynys.
 
Roedd rhyd Aber Malltraeth pan oedd y llanw i mewn yn beryglus iawn ac yn gwneud teithio yn anodd rhwng "Sir Fôn Fawr" a "Sir Fon Fach". Yr hen Afon Cefni oedd y ffin rhwng Cwmwd Rhosyr a Chwmwd Malltraeth sef rhaniad Cantrefi Môn.
 
Cafwyd deddf i gau y môr a sychu y ddwy gors sef ''The Enclosure Act of Malltraeth Marsh and Cors Ddyga''. Trawsffurfiodd hyn y dirwedd pan adeiladwyd Cob Malltraeth a dechreuodd yr Afon Cefni ymffurfio o'r newydd ynghanol y dyffryn. Sythu yr afon Cefni ei hun, ac adeiladwyd dwy ffôs fawr o'r enw Afon Fain, un bob ochr i'r afon gyda'r diben o sychu'r ddwy gors.
Llinell 29:
Canlyniad hyn oedd troi'r rhan fwyaf o'r gors yn borfa. Bu cloddio am [[glo|lo]] yma am gyfnod. Gyda'r gwaith yn dod i ben ffurfiwyd y llynnau a elwir yn "Llynnau Gwaith-glo".
 
Mae darn sylweddol o ran ddwyreiniol Cors Ddyga yn awr yn warchodfa adar yn perthyn i'r [[RSPB]], sydd wedi gwneud llawer o waith i adfer cynefin corsiog naturiol yma. Nid yw'r warchodfa ar agor i'r cyhoedd yn swyddogol hyd yma.
 
Mae llwybrau cyhoeddus a ffordd gyhoeddus Lon Gors a Lon Morfa Mawr yn croesi'r gors, diolch i weledigaeth Donald Glyn Pritchard, ysgrifennydd Cymdeithas Gwarchod Pentre Berw gyda chefnogaeth Cyngor Cymuned Esceifiog, swyddogion Cyngor Sir Ynys Mon a Menter Mon, Yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos a Ieuan Wyn Jones AS a AC cafwyd arian o Ewrop i ail wynebu y ffyrdd sef Lon Gwaith Lon Gors Lon Bach a chreu Maes Parcio cyhoeddus i gerddwyr (a'u cwn) a beicwyr i fwynhau distawrydd Cors Ddyga.
 
Prif ysgogiad y cynllun hwnoedd creu llwybrau gwastad diogel i bobl oedd wedi cael triniaeth calon a chymalau newydd. Mae'r Maes Parcio a'r llwybrau uchod yn cysylltu Lon Las Cefni ac yn hynod o boblogaidd gan bobl yr ynys a'r tir mawr. Agorwyd y Maes Parcio yn gyhoeddus gan blant hynaf Ysgol Esgeifiog a threfnwyd picnic iddynt gan aelodau a chyfeillion y gymdeithas. Noddwyd y dathliad gan Bysiau Gwynfor a D G Pritchard (CGPB.)