Cristnogaeth yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Dechreuadau: clean up, replaced: 2ail ganrif → 2g using AWB
Ychwanegu infobox person/wikidata, replaced: deunawfed ganrif → 18g (2), y d18g → y 18g (2) using AWB
Llinell 38:
Gwlad dlawd ar gyrion 'nerthoedd mawr y Diwygiad Protestannaidd' oedd Cymru heb lawer o'i phobl wedi clywed nac arfer ac athrawiaethau mawr diwygwyr megis [[Martin Luther|Luther]], [[Zwingli]] a [[John Calvin|Chalfin]]. Llais unig oedd un John Penry ac nid tan yr 1630au y daethpwyd i werthfawrogi ei alwad yn fwy cyffredinol. Roedd dylanwad Pabyddiaeth ar Gymru o hyd ac roedd ofergoeliaeth yn rhemp. Nid oedd gwybodaeth am drefn yr achub, yn ôl credo'r [[Apostol Paul]], [[Credo Nicea]] a'r diwygiwr Calfin – hynny yw Cristnogaeth glasurol hanesyddol, yn wybyddus iawn yng Nghymru. Fodd bynnag fe ymatebodd gwŷr, a adnabuwn fel y Piwritaniaid Cymreig, i'r angen hwn. Y pennaf yn eu phlith oedd [[Walter Cradoc]], [[John Myles]] a [[Vavasor Powell]]. Ac erbyn 1650 rhydd oedd eu cenhadaeth i'w cyd-Gymru a diolch i Ddeddf Taenu'r Efengyl (1650) roedd gan Gymru hunanlywodraeth, i bob pwrpas, dros ei materion crefyddol. Ond haf bach Mihangel yn unig oedd cyfnod Deddf y Taenu oblegid, fel y dywed Geraint H. Jenkins; 'Nychwyd y delfryd gan naws Seisnig ac estron y Werinlywodraeth' yn ystod yr Oruchafiaeth. Yn dilyn cwymp Llywodraeth y Piwritaniaid a'r Gweriniaethwyr yn 1660 ac ail gipio grym gan y Brenhinwyr a'r Eglwyswyr fe wynebodd Anghydffurfwyr flynyddoedd caled o erlid yn ystod blynyddoedd 'yr Erlid Mawr.' Cadw'n ffyddlon a pharhau i dystio yn wyneb erledigaeth fu hanes yr ymneilltuwyr hyd pasio'r Ddeddf Goddefiad yn 1689. Dyna oedd agor cyfle i'r ymneilltuwyr, unwaith yn rhagor, i ledu eu cenhadaeth a chwyddo rhengoedd heb rwystr nag erlid.<ref>Geraint H. Jenkins: ''Dr Thomas Richards: Hanesydd Piwritaniaeth ac Anghydffurfiaeth Gymreig'' (1995)</ref>
 
O dan ryddid bregus y Ddeddf Goddefiad y dechreuwyd adeiladu’r capeli Ymneilltuol cyntaf. Agorwyd capeli Brynberian a Cross Street, Y Fenni, ym 1690, ond parhâi’r mwyafrif i gyfarfod mewn tai preifat, ysguboriau a mannau cyffelyb. Cyfnod o gynnydd graddol a gafwyd ar droad y ddeunawfed ganrif18g. Ym 1715 yr oedd gan Annibynwyr Cymru 26 o eglwysi gyda rhyw 7,640 o aelodau. Cafwyd cynnydd hefyd yn nifer y gweinidogion, ac oherwydd nad oedd ganddynt hawl o dan y Deddfau Prawf a Chorfforaethau i fynychu prifysgolion, derbyniasant eu haddysg mewn academïau preifat. Er gwaethaf y cynnydd hwn, ni welwyd eto lacio ar y cyfyngiadau oedd ar Ymneilltuwyr fel dinasyddion, a chafwyd enghreifftiau pellach o erlid. O ganlyniad, daeth yr Annibynwyr yn bobl ofalus a gwyliadwrus, yn meddu argyhoeddiadau dyfnion ond dim ond ychydig o egni efengylaidd. Fel y dywed R. Tudur Jones, ‘caiff dyn yr argraff mai pobl dda oedd Annibynwyr y ddeunawfed ganrif, pobl dawel eu rhodiad, uchel eu safonau moesol, deallus eu hamgyffrediad o wirioneddau’r Ffydd ac yn ymroi i gyfoethogi a dyfnhau eu bywyd ysbrydol. . . Cadw’r fflam ynghyn mewn dyddiau tywyll a merfaidd oedd eu braint hwy, ac ni fuont yn anffyddlon i’r dasg honno’.<ref name="annibynwyr.org">Codwyd, golygwyd ac yn ddyfynedig o http://www.annibynwyr.org/print/hanes.html</ref>
 
==Ymneilltuaeth a thwf y capeli==
Llinell 54:
Wrth i nifer yr Ymneulltuwyr gynyddu yn ystod y 19eg ganrif, cynyddodd hefyd eu teimlad o gyfrifoldeb dros y gymdeithas gyfan. Wrth ddod yn ymwybodol o’u nerth cymdeithasol, daethant i sylweddoli y gallent ddylanwadu ar wleidyddiaeth a chyfrannu at lunio byd fyddai’n cyfateb i’w delfrydau. Daeth y capeli yn lleoedd prysur dros ben wrth i’w gweithgarwch ymestyn i feysydd eraill ym mywyd Cymru. Sefydlwyd cymdeithasau llenyddol a grwpiau drama, trefnwyd clybiau cynilo, a chynhaliwyd nosweithiau cymdeithasol a thripiau Ysgol Sul. Yn y cyfnod hwn hefyd y daeth canu cynulleidfaol i fri, agwedd o addoliad a ddaeth yn nodweddiadol o grefydd Cymru. Cynhaliwyd y Gymanfa Ganu gyntaf yn Aberdâr ym 1859, a thros y blynyddoedd canlynol bu symlrwydd y Tonic Sol-ffa yn allweddol i’r cynnydd ym mhoblogrwydd y Gymanfa.
 
Oherwydd iddynt ymddangos yng Nghymru yng nghyfnod y Chwyldro Piwritanaidd, bu’r Ymneilltuwyr yn ymhél â gwleidyddiaeth o’u dyddiau cynnar. Collwyd rhywfaint o’r agwedd wleidyddol honno yn ystod y ddeunawfed ganrif18g, ond cafwyd adfywiad wrth iddynt fagu hyder yn hanner cyntaf y 19eg ganrif. Dechreuasant ymgyrchu yn erbyn y Deddfau Prawf a Chorfforaethau a’u cadwant yn ddinasyddion eilradd, ac yn erbyn anghyfiawnder y drefn gaethwasiaeth. Carreg filltir bwysig yn neffroad gwleidyddol yr Anghydffurfwyr oedd cyhoeddi’r Llyfrau Gleision ym 1847. Er mai adroddiadau ar addysg yng Nghymru oedd y Llyfrau Gleision, yr oeddent yn cynnwys ensyniadau difrifol ynghylch moesoldeb y Cymry a chafwyd adwaith ffyrnig iddynt o du’r Anghydffurfwyr. Y brif ymgyrch wleidyddol yn y cyfnod hwn oedd honno i ddatgysylltu’r Eglwys Anglicanaidd oddi wrth y wladwriaeth, i’w gwneud yn ‘enwad’ cyfartal â’r Ymneilltuwyr yn hytrach nac yn eglwys ‘swyddogol’. I ddechrau, ymunodd Ymneilltuwyr Cymru gyda’u cymdogion yn Lloegr i alw am ddatgysylltu’r Eglwys yn gyfan gwbl, ond wrth iddynt gynyddu eu dylanwad yng Nghymru, sylweddolwyd y byddai gwell gobaith o lwyddiant pe byddent yn canolbwyntio ar ddatgysylltu yng Nghymru yn unig. Ac felly y bu. Erbyn diwedd y ganrif, yr oedd ymdrech gydwybodol yn cael ei gwneud gan Ymneilltuwyr Cymru i ddatgysylltu’r Eglwys yn eu gwlad eu hunain.
 
Er bod yr Anghydffurfwyr yn ail hanner y 19eg ganrif yn fwy dylanwadol nag erioed yng Nghymru, buan yr ymddangosodd sialensiau newydd i’r eglwysi. Yn un peth, ’roedd Cymru yn wynebu cyfnod o newid ar raddfa nas gwelwyd o’r blaen. I filoedd o Gymry, chwalwyd yr hen ffordd o fyw gan ddiwydiannu a threfoli. Ymddangosodd sialensiau deallusol hefyd. Bu ymosodiadau ar ysbrydoliaeth ddwyfol a dilysrwydd cyffredinol y Beibl o gyfeiriad cyfandir Ewrop, a theimlid bod darganfyddiadau ym myd gwyddoniaeth yn tanseilio rhai o gysyniadau sylfaenol Cristnogaeth ynglŷn â Duw fel Creawdwr, effeithiolrwydd gweddi, y gwyrthiau a’r Atgyfodiad.