Annibynwyr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up
Ychwanegu infobox person/wikidata, replaced: deunawfed ganrif → 18g (2), unfed ganrif ar bymtheg → 16g, y d18g → y 18g (2) using AWB
Llinell 2:
 
==Annibynwyr yng Nghymru==
Dechreuodd hanes yr Annibynwyr yng [[Cymru|Nghymru]] yn gynnar ar ôl y diwygiadau mawr a fu yn [[Ewrop]] yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg16g.
 
Mae tua saith mil ar hugain o aelodau yn perthyn i'r eglwysi sy'n perthyn i [[Undeb yr Annibynwyr]]. Yr Undeb hwn sy'n cydlynu gweithgarwch yr eglwysi, ond nid yw yn eu llywodraethu gan mai cred yr Annibynwyr yw mai aelodau pob eglwys unigol sy'n gyfrifol ac i benderfynu ar drefniadaeth y gynulleidfa.
Llinell 22:
Ym 1689, daeth rhywfaint o ryddhad i’r Ymneilltuwyr. Buont yn gefnogol i’r ymgyrch i ddod â [[Wiliam III & II, brenin Lloegr a'r Alban|William, Tywysog Orange]], i Loegr i gymryd lle ei dad-yng-nghyfraith ac olynydd Siarl II, y brenin [[Iago II o Loegr|Iago II]]. Coronwyd William ym 1688, a gwobrwywyd yr Ymneilltuwyr am eu cefnogaeth gyda [[Deddf Goddefiad]]. Dan y ddeddf honno, rhoddwyd [[rhyddid cydwybod]] i’r Ymneilltuwyr ar yr amod iddynt ddatgan eu cydsyniad â [[diwinyddiaeth]] Eglwys Loegr, cofrestru eu mannau addoli a sicrhau trwyddedau i’w pregethwyr. Ond er gwaethaf y tamaid rhyddid a roddai’r Ddeddf Goddefiad iddynt, cawsant eu trin fel dinasyddion eilradd o dan gyfyngiadau Deddfau’r Prawf a’r Corfforaethau a ddaeth i rym o dan Siarl II. Yr oedd y deddfau hynny’n eu hatal rhag dod yn ddylanwadol o fewn y gymdeithas.
 
O dan ryddid bregus y Ddeddf Goddefiad y dechreuwyd adeiladu’r [[capel]]i Ymneilltuol cyntaf. Agorwyd capeli Brynberian a Cross Street, [[Y Fenni]], ym 1690, ond parhâi’r mwyafrif i gyfarfod mewn tai preifat, ysguboriau a mannau cyffelyb. Cyfnod o gynnydd graddol a gafwyd ar droad y ddeunawfed ganrif18g. Ym 1715 yr oedd gan Annibynwyr Cymru 26 o eglwysi gyda rhyw 7,640 o aelodau. Cafwyd cynnydd hefyd yn nifer y gweinidogion, ac oherwydd nad oedd ganddynt hawl o dan y Deddfau Prawf a Chorfforaethau i fynychu prifysgolion, derbyniasant eu haddysg mewn academïau preifat.
 
Er gwaethaf y cynnydd hwn, ni welwyd eto lacio ar y cyfyngiadau oedd ar Ymneilltuwyr fel dinasyddion, a chafwyd enghreifftiau pellach o erlid. O ganlyniad, daeth yr Annibynwyr yn bobl ofalus a gwyliadwrus, yn meddu argyhoeddiadau dyfnion ond dim ond ychydig o egni efengylaidd. Fel y dywed [[R. Tudur Jones]], "caiff dyn yr argraff mai pobl dda oedd Annibynwyr y ddeunawfed ganrif, pobl dawel eu rhodiad, uchel eu safonau moesol, deallus eu hamgyffrediad o wirioneddau’r Ffydd ac yn ymroi i gyfoethogi a dyfnhau eu bywyd ysbrydol. . . Cadw’r fflam ynghyn mewn dyddiau tywyll a merfaidd oedd eu braint hwy, ac ni fuont yn anffyddlon i’r dasg honno".
Llinell 53:
Yn y cyfnod hwn hefyd y daeth canu cynulleidfaol i fri, agwedd o addoliad a ddaeth yn nodweddiadol o grefydd Cymru. Cynhaliwyd y [[Cymanfa Ganu|Gymanfa Ganu]] gyntaf yn [[Aberdâr]] ym 1859, a thros y blynyddoedd canlynol bu symlrwydd y Tonic Sol-ffa yn allweddol i’r cynnydd ym mhoblogrwydd y Gymanfa.
 
Oherwydd iddynt ymddangos yng Nghymru yng nghyfnod y chwyldro Piwritanaidd, bu'r Ymneilltuwyr yn ymhél â gwleidyddiaeth o'u dyddiau cynnar. Collwyd rhywfaint o’r agwedd wleidyddol honno yn ystod y ddeunawfed ganrif18g, ond cafwyd adfywiad wrth iddynt fagu hyder yn hanner cyntaf y 19eg ganrif. Dechreuasant ymgyrchu yn erbyn y Deddfau Prawf a Chorfforaethau a'u cadwant yn ddinasyddion eilradd, ac yn erbyn anghyfiawnder y drefn [[caethwasiaeth|gaethwasiaeth]].
 
Carreg filltir bwysig yn neffroad gwleidyddol yr Anghydffurfwyr oedd cyhoeddi'r [[Brad y Llyfrau Gleision|Llyfrau Gleision]] ym 1847. Er mai adroddiadau ar [[addysg yng Nghymru]] oedd y Llyfrau Gleision, yr oeddent yn cynnwys ensyniadau difrifol ynghylch [[moesoldeb]] y Cymry a gwerth yr iaith [[Gymraeg]] a chafwyd adwaith ffyrnig iddynt o du’r Anghydffurfwyr ac eraill.