Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cymraeg ysgrifenedig"

Lleihawyd o 55 beit ,  2 flynedd yn ôl
→‎Hanes safoni Cymraeg ysgrifenedig: Ychwanegu infobox person/wikidata, replaced: unfed ganrif ar bymtheg → 16g, bymthegfed ganrif → 15g, bedwaredd ganrif ar ddeg → 14g using AWB
B (clean up)
(→‎Hanes safoni Cymraeg ysgrifenedig: Ychwanegu infobox person/wikidata, replaced: unfed ganrif ar bymtheg → 16g, bymthegfed ganrif → 15g, bedwaredd ganrif ar ddeg → 14g using AWB)
Dechreuwyd ar safoni’r iaith ysgrifenedig gan y beirdd.<ref name= OrgraffyrIaithGymraeg >''Orgraff yr Iaith Gymraeg'', 1928, Pwyllgor Llên Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru</ref> Roedd y rhain yn teithio o [[llys|lys]] i lys trwy ardaloedd â thafodieithoedd amrywiol ynddynt ac yn cwrdd â’i gilydd mewn [[eisteddfod]]au. Ceisient ddefnyddio geiriau cyffredin i’r holl dafodieithoedd fel bod eu gwaith yn ddealladwy gan bawb. Erbyn adeg beirdd yr Oesoedd Canol gellir dweud bod gan y Gymraeg iaith lenyddol safonol o ran geirfa.
 
Ond nid oedd unrhyw gysondeb yn sillafiad y geiriau; e.e. dynodai '''d''' y seiniau sydd heddiw yn cael eu sillafu yn '''d''' ac yn '''dd'''. Ar gyfer y sain a sillefir heddiw yn '''f''' defnyddid '''f''' ar ddiwedd gair, '''u''' neu '''v''' ar ei ddechrau ac '''u''', '''v''', '''fu''', '''fv''', neu '''f''' yn ei ganol. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg14g yr oedd y [[cynghanedd|gynghanedd gaeth]] wedi llawn ddatblygu ac yn gofyn am gyfatebiaeth seiniau. Roedd hyn yn sbardun i sefydlu iaith farddol safonol a’r symbolau am y seiniau yn fwy diamwys erbyn y bymthegfed ganrif15g. Yn wir, roedd orgraff y Gymraeg y pryd hynny yn fwy unffurf nac aml i iaith arall yn Ewrop.
 
Yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg16g ceisiodd gramadegwyr ddyfeisio cyfundrefn lythrennau boddhaol.<ref name=BeibliGymru >''Beibl i Gymru'', Prys Morgan (Pwyllgor Dathlu Pedwarcanmlwyddiant Cyfieithu'r Beibl/Gwasg Cambria, 1988)</ref> Roedd [[William Salesbury]] wedi mynnu dyfeisio orgraff ei hunan a oedd i fod i ddangos tarddiad gair a'i gysylltiad â'r Lladin yn hytrach na dangos ynganiad y gair. Roedd wedi defnyddio'r orgraff hon yn ei gyfieithiad o'r Testament Newydd a gyhoeddwyd yn [[1567]]. Ond ni phrofodd y cyfieithiad yn un poblogaidd yn bennaf gan fod yr orgraff yn ei gwneud yn anodd darllen y Beibl yn gyhoeddus.
 
Gwahanol iawn oedd [[Beibl 1588|Beibl]] y Dr [[Esgob William Morgan|William Morgan]] a gyhoeddwyd yn [[1588]] er mai [[y Beibl|Testament Newydd]] a Llyfr Gweddi 1567 Salesbury a'i gydweithwyr oedd sail cyfieithiad William Morgan yntau o'r Testament Newydd a'r Salmau. Defnyddiodd ef orgraff yn seiliedig ar orgraff lenyddol draddodiadol y canu caeth, oedd yn cyfleu ynganiad gair. Ond sillafai rai geiriau yn ôl arfer canu gwerin ac iaith lafar gyfoes. Cyhoeddwyd diwygiad i’r Beibl hwn yn [[1620]] a ddilynai’r un patrwm llythrennu ond a ddefnyddiai eiriau llenyddol yn hytrach na geiriau tafodieithol Beibl Dr Morgan.
417,732

golygiad