Hanes Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up, replaced: 8fed ganrif → 8g using AWB
Ychwanegu infobox person/wikidata, replaced: ugeinfed ganrif → 20g (2), ail ganrif ar bymtheg → 19g, deunawfed ganrif → 18g, y d18g → y 18g using AWB
Llinell 59:
==Yr Ail Ganrif ar Bymtheg==
{{Prif|Yr Ail Ganrif ar Bymtheg yng Nghymru}}
Roedd yr ail ganrif ar bymtheg19g yn gyfnod a ddominyddwyd gan dwf [[Diwygiad Protestannaidd|Protestaniaeth]] a'i henwadau a'r ymrafael am rym gwladol rhwng y [[Brenhinoedd a breninesau Lloegr|frenhiniaeth]] a'r [[senedd]] yn [[Teyrnas Lloegr|Lloegr]] a arweiniodd at y [[Rhyfel Cartref]].
 
==Y Ddeunawfed Ganrif==
{{Prif|Y Ddeunawfed Ganrif yng Nghymru}}
Roedd y ddeunawfed ganrif18g yn gyfnod o barhad o rai agweddau ar fywyd crefyddol a chymdeithasol y ganrif flaenorol ac, ar yr un pryd, yn gyfnod o newidiadau mawr yn y wlad, yn arbennig yn ail hanner y ganrif a osododd [[Cymru]] ar lwybr newydd gyda [[diwydiant]] yn tyfu'n gyflym a phoblogaeth y trefi'n dechrau cynyddu.
 
[[Delwedd:Richard Wilson - Snowdon from Llyn Nantlle - Google Art Project.jpg|200px|bawd|"[[Yr Wyddfa]] o [[Llyn Nantlle|Lyn Nantlle]]", dyfrlliw gan [[Richard Wilson (arlunydd)|Richard Wilson]]]]
Llinell 85:
==Yr Ugeinfed Ganrif==
{{Prif|Yr Ugeinfed Ganrif yng Nghymru}}
Gellid dadlau bod yr ugeinfed ganrif20g yng Nghymru yn gyfnod a welodd fwy o newid yn y wlad nag yn ystod unrhyw gyfnod arall yn ei hanes.
 
[[Delwedd:Triban Plaid Cymru.png|250px|bawd|Ffurfiwyd [[Plaid Cymru]] ym [[1925]]]]
Yn chwarter cyntaf y ganrif roedd Cymru yn wlad [[Plaid Ryddfrydol (DU)|Ryddfrydol]] o ran ei [[gwleidyddiaeth]]. Ond y [[Y Blaid Lafur (DU)|Blaid Lafur]] oedd y blaid rymusaf yng Nghymru o'r [[1930au]] ymlaen. Ffurfiwyd [[Plaid Cymru]] a [[Cymdeithas yr Iaith|Chymdeithas yr Iaith]] a sefydlwyd [[Y Swyddfa Gymreig]] yn [[1964]] a [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru|Chynulliad Cenedlaethol Cymru]] ym [[1999]].
 
Erbyn [[1911]] roedd 86,000 o bobl yn gweithio ar y [[rheilffyrdd]] ac yn nociau mawr y De. Ddechrau'r ugeinfed ganrif20g disodlwyd [[haearn]] gan [[dur|ddur]] fel y prif fetel a oedd yn cael ei allforio o'r wlad. Yr oedd 3,700 yn gweithio mewn gwaith [[copr]] yn [[1911]] ac 21,000 mewn gwaith [[tun]]. Roeddent yn cynhyrchu 848,000 tunnell o blât tin mewn blwyddyn. Cynhyrchwyd 56.8 miliwn tunnell o [[glo|lo]] yn [[1913]]. Roedd Cymru yn allforio traean o holl allforion glo'r byd gan gyflogi 250,000 o ddynion ym meysydd glo'r de a'r gogledd-ddwyrain. Ond cafwyd dirywiad difrifol mewn nifer o'r diwydiannau traddodiadol ar ôl yr [[Ail Ryfel Byd]], yn arbennig yn y meysydd glo. Ym 1913 cyflogid yn y gwaith glo 232,000 o ddynion, ond erbyn [[1960]] dim ond 106,000 a gyflogid a syrthiasai'r nifer i 30,000 yn unig erbyn [[1979]]. Nid oedd ond un pwll glo ar ôl yng Nghymru erbyn y 1990au. Roedd dirywiad tebyg yn y [[diwydiant dur]] ac economi Cymru yn gyffredinol. Roedd Cymru fel nifer o wledydd eraill y gorllewin yn dod yn fwyfwy ddibynnol ar y sector gwasanaeth. Un o ganlyniadau'r dirywiad yn y diwydiant glo ac o ganlyniad esgeuluso diogelwch y tipiau glo oedd [[trychineb Aberfan]], pan lyncwyd ysgol gyfan gan lithriad gwastraff glo gan ladd 144 o blant ac athrawon.
 
Yn [[1911]] roedd gan Gymru boblogaeth o 2,400,000 gyda bron i 1,000,000 yn siarad [[Cymraeg]]. Dyma'r nifer fwyaf erioed ond eisoes roedd y Cymry Cymraeg yn lleiafrif. Ond lladdwyd nifer o Gymry ifainc yn y [[Rhyfel Byd Cyntaf]], llawer ohonyn nhw'n siaradwyr Cymraeg. Cafodd [[Dirwasgiad Mawr]] y [[1930au]] ei effaith hefyd a chredir fod tua 450,000 o bobl wedi ymfudo o'r wlad rhwng [[1921]] a [[1939]].