Ceinewydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Eglwysi: delwedd
→‎Hanes: Ychwanegu infobox person/wikidata, replaced: deunawfed ganrif → 18g, y d18g → y 18g using AWB
Llinell 27:
==Hanes==
[[Delwedd:Traeth y Cei 1988.jpg|bawd|chwith|250px|Traeth y Cei]]
Bychan iawn oedd y pentref yma cyn i John a Lewis Evans brynnu "Ystâd Neuadd" yn 1791. Dim ond tri thŷ a chwe bwthyn oedd ar yr ystâd a oedd yn 1,200 cyfer. Hen fferm oedd ar y safle ble mae Gwesty Pen Wig heddiw. Felly, mae'n bentref eithaf diweddar – nid oes golwg ohoni ar fapiau tan canol y ddeunawfed ganrif18g – ond yn fuan dechreuodd dyfu fel pentref pysgota ac yna fel atyniad twristaidd boblogaidd. Does dim dwywaith fod [[smyglo]] hefyd wedi chwarae rhan bwysig o'r economi leol ar yr adeg hon. Tua chanol y 19eg ganrif, daeth Ceinewydd yn borthladd pwysig yn darparu [[calch]] i'r ffermydd lleol. Adeiladwyd sawl llong yno hefyd. Ond gyda dyfodiad y [[rheilffordd]] i'r trefi cyfagos, daeth diwedd i bwysigrwydd y pentref. Bellach, twristiaeth yw diwydiant pennaf Ceinewydd. Mae rhai o'r ffermydd yn dyddio i'r [[16g]] neu cyn hynny; nodir "Crawgal" a "Chefn Gwyddil" yn arolwg 1587 a "Phen Coed" a "Phenrhiwpistyll" wedi eu codi ar ddechrau'r [[17g]]. Yn y pentref, yn wreiddiol, Penygeulan (neu Rhes Glanmor, heddiw) oedd y rhes cyntaf o dai, a'r rheiny'n fythynod clom, to gwellt, a Glyngoleu sydd ar y bryn i'r dwyrain o'r môr. Mae'r rhan fwyaf o dai heol Glyngoleu, bellach, wedi'u bwyta gan donnau'r môr. Codwyd Dolau, Wellington Place a'r tai ar waeld Heol yr Eglwys cyn codi'r cei yn 1835.
 
===Eglwysi===