Theatr Felinfach: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
→‎top: Ychwanegu infobox person/wikidata using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Theatr Felinfach.JPG|250px|bawd|Theatr Felinfach]]
 
[[Theatr]] ranbarthol yw '''Theatr Felinfach''', a leolir ger pentref [[Ystrad Aeron]] yn [[Dyffryn Aeron|Nyffryn Aeron]], tua 7 milltir o dref [[Llanbedr Pont Steffan]] yn sir [[Ceredigion]], [[Cymru]]. Nod y theatr yw "darparu cyfleoedd addysgol eang i boblogaeth Ceredigion a gorllewin Cymru trwy gyfrwng y celfyddydau yn gyffredinol, a drama, theatr, dawns a’r cyfryngau yn arbennig."<ref name="Theatr Felinfach">[https://theatrfelinfach.cymru/ Theatr Felinfach]</ref>
 
Sefydlwyd Theatr Felinfach trwy addasu hen weithdy cywiro peiriannau amaethyddol o gyfnod yr Ail Ryfel Byd ar safle yn Felinfach yn 1972 gan Adran Addysg yr hen [[Sir Aberteifi]] a chafodd ei agor yn swyddogol ym mis Mai y flwyddyn honno.<ref>[https://theatrfelinfach.cymru/ name="Theatr Felinfach]<"/ref> Fe'i noddir gan [[Cyngor Celfyddydau Cymru]] a [[Cyngor Sir Ceredigion]].
 
Mae'n un o brif ganolfannau diwylliannol y [[Gymraeg]] yng nghanolbarth a gorllewin Cymru ac yn un o'r ychydig theatrau sy'n canolbwyntio ar gynhyrchiadau Cymraeg yn bennaf, er ei bod yn llwyfanu perfformiadau drama a cherddoriaeth yn Saesneg o Gymru a gweddill gwledydd Prydain hefyd.