Cambria irredenta: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Ychwanegu infobox person/wikidata, replaced: ugeinfed ganrif → 20g using AWB
Llinell 3:
Lluniodd [[Deddf Uno 1536]] [[y ffin rhwng Cymru a Lloegr]], gan ddiddymu [[Arglwyddiaethau'r Mers]] a chreu siroedd newydd. Ni ddilynai'r ffin newydd [[Clawdd Offa|Glawdd Offa]] na ffiniau'r esgobaethau Cymreig yn union, ac felly creodd ardaloedd Cymreig tu draw'r ffin. Roedd [[Teyrnas Powys]] yn cynnwys ardaloedd sydd heddiw yn rhan o Loegr. [[Llwydlo]] yn Swydd Amwythig oedd sedd [[Tywysogaeth Cymru#Dominiwn a Thywysogaeth Cymru a'i Mers|Dominiwn a Thywysogaeth Cymru a'i Mers]] o 1473 hyd 1689, ac yn hanesyddol [[Lerpwl]] yw prifddinas [[Gogledd Cymru]]. Hyd at [[datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru|ddatgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd]], roedd [[Esgobaeth Llanelwy]] yn cynnwys nifer o blwyfi yn Swydd Amwythig megis [[Croesoswallt]] a [[Selattyn]].
 
Yn ôl [[John Davies (hanesydd)|John Davies]], roedd trefi yn Lloegr megis Croesoswallt ac [[Ewias]] yn "dra Chymraeg" am ganrifoedd wedi'r Ddeddf Uno, "ardaloedd nad yw'n gwbl ffansïol eu hystyried fel ''Cambria irredenta''".<ref>Davies, John. ''Hanes Cymru'' (Llundain, Penguin, 2007), t. 211.</ref> Mae tystiolaeth i ddangos roedd y Gymraeg yn dal i'w chlywed gan drigolion Ewias, [[Longtown, Swydd Henffordd|Longtown]], ac [[Archenfield]] yn Swydd Henffordd hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac o bosib yn [[Fforest y Ddena]] a [[Dyffryn Olchon]] hyd yr ugeinfed ganrif20g.<ref>Lewis, Colin. ''Herefordshire, the Welsh Connection'' (Llanrwst, Gwasg Carreg Gwalch, 2006), tt. 164–6.</ref>
 
Yn y 1920au dadleuodd [[J. E. Lloyd]] y dylai Mesur [[Ymreolaeth]] i Gymru cynnwys Swyddi Henffordd ac Amwythig, a sbardunodd eraill i gefnogi'r [[Amwythig]] fel sedd am senedd Gymreig ac hyd yn oed [[prifddinas Cymru]].<ref>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://welshjournals.llgc.org.uk/browse/viewpage/llgc-id:1311205/llgc-id:1315972/llgc-id:1315998/getText |teitl=Plaid Genedlaethol Cymru : Debut of The Welsh National Party |gwaith=[[Welsh outlook]] |cyhoeddwr=[[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]] |dyddiad=Awst 1925 |dyddiadcyrchiad=19 Hydref 2012 }}</ref>