Llenyddiaeth y Dadeni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ychwanegu infobox person/wikidata using AWB
Llinell 2:
Rhan o fudiad [[Y Dadeni|y Dadeni Dysg]] yn niwylliant Ewrop y 15g a'r 16g oedd '''llenyddiaeth y Dadeni'''. Ymgododd ei nodweddion cynharaf yn [[yr Eidal]] yn y 13g a 14g. Nodweddir gan yr adferiad o [[Dyneiddiaeth|ddyneiddiaeth]] a dylanwadau eraill llên glasurol Roeg a Lladin. Lledaenodd gweithiau llenyddol yn gyflym ac ar raddfa eang yn sgil dyfodiad y [[Gwasg argraffu|wasg argraffu]] ym 1450.

Effeithiodd tueddiadau'r Dadeni ar destun, thema a ffurf. Ymhlith ei brif nodweddion, sy'n gyffredin i gelfyddydau'r Dadeni, yw dynweddiant, diddordeb yn natur, a mytholeg glasurol. Adferai athroniaeth y Dadeni syniadau [[Platon|Platonaidd]]aidd er budd [[Cristnogaeth]]. Yn ogystal aeth llenorion ar drywydd pleser synhwyraidd a mabwysiadant meddylfryd beirniadol a rhesymolaidd yn eu gwaith. O ran yr agweddau ffurfiol, adferai'r traddodiad gorchmynnol (a chanddo'i wraidd yn y ''[[Barddoneg (Aristoteles)|Farddoneg]]'' gan [[Aristoteles]]) ar sail yr egwyddor gelfyddydol o ddynwared. Datblygodd hefyd mathau a ffurfiau newydd ar ryddiaith, megis y [[traethawd]], a mesurau mydryddol megis, er enghraifft gosod y ffurf stroffig i'r [[soned]] a'r llinell unsill ar ddeg yn brif fesur y farddoniaeth Eidaleg.

Gosododd [[Dante Alighieri|Dante]], [[Francesco Petrarca|Petrarch]] a [[Giovanni Boccaccio|Boccaccio]] sail i ysblander lenyddol yr Eidal yn y 16g. Llenor blaenaf y ganrif honno oedd [[Pietro Bembo]], meistr y delyneg a'r soned Betrarchaidd ac yn anad dim yn feirniad chwaeth y llên Eidaleg, a lewyrchodd mudiad y Dadeni ar draws cyfandir Ewrop.
Llinell 26:
Adeg y trawsnewid Lladin gwerinol i'r Dysganeg, ysgrifennodd amddiffynniad o'r iaith lafar yn Lladin, ''De vulgari eloquentia'' (tua [[1304]]). Dilynodd ei bregeth ei hun, gan arloesi safonau'r [[Ieithoedd Romáwns|iaith Romáwns]] a elwir heddiw yn Eidaleg: ''La Vita Nuova'' (tua [[1293]]) a ''[[Divina Commedia|La Commedia]]'' ([[1320]]).
* Enghraifft glasurol o'r ''d''''olce stil nuovo ''yw ''La Vita Nuova''. Trwy gyfrwng y soned a'r delyneg mewn cydwead â'r rhyddiaith eglurhaol, fe ddisgrifai'r awdur ei gariad Platonaidd at Beatrice.

* Campwaith Dante, ac un o'r gweitihiau pwysicaf yn y canon Ewropeaidd, yw ''La Commedia'' neu ''La Divina Commedia ''(Dwyfol Gân Dante neu'r Gomedi Ddwyfol), [[Alegori|aralleg]] fawreddog ar fesur y triban cadwyn, ffurf farddonol a luniodd Dante o'i ben a'i bastwn ei hun. Yn y gerdd hon mae'r awdur, yng nghwmni'r bardd Lladin [[Fyrsil]], yn crwydro [[Uffern]] a [[Purdan|Phurdan]] ac yna mae Beatrice yn ei arwain drwy Baradwys.
Nodir ''La Commedia ''am egni ei mynegiant, amrywiaeth ei emosiynoldeb, a gwreiddioldeb ei delweddaeth. Thema ganolog y gerdd yw tynged drosgynnol y ddynolryw a myfyrio ar yr enaid, a welir trwy fydolwg sy'n cyfuno'r Gristionogaeth a diwylliant y gwareiddiad Groeg-Rufeinig.
Llinell 87 ⟶ 86:
[[Delwedd:Jean_Auguste_Dominique_Ingres_-_Roger_Delivering_Angelica.jpg|bawd|240x240px|''Rugiero salvando a Angélica'' ([[Jean Auguste Dominique Ingres|Ingres]], 1819).]]
* Mae'n bosib taw Ludovico Ariosto oedd mydryddwr disgleiriaf ei oes. Yn ei gerdd ffantasi epig ''Orlando furioso'', codai pen llinyn stori ''Orlando Innamorato'' gan i'w awdur Matteo Maria Boiardo peidio â gorffen y rhamant honno. Mae Orlando yn cyfateb i [[Rolant]] yn chwedloniaeth Ffrainc, a chylchoedd myth a llên Ffrainc ac Ynys Brydain oedd yr ysbrydoliaeth am Orlando'r Eidalwyr. Traddodai anturiaethau'r marchog Orlando wrth iddo geisio ennill cariad Angelica ac yn mynd yn wallgof ar yr un pryd. Mae Angelica mewn cariad â'r milwr o Fwslim Medoro, ac yng nghynddaredd ei genfigen mae Orlando'n difetha popeth yn ei ffordd. Mae ei gyfaill Astolfo yn teithio i'r lleuad ar gefn marchriffwn i ganfod elicsir callineb. Trwy gydol yr adroddiant, a chanddo iaith flodeuog a ffansïol, câi'r gerdd ei britho â straeon byrion. Cafodd ''Orlando furioso'' mwy o ddylanwad na cherdd Boiardo, ac yn wrthrych sawl cyfieithiad, dilyniant, efelychiad, ac ailwampiad. Campwaith Ariosto oedd prif batrwm yr arwrgerdd yn llenyddiaeth y Dadeni.

* Bardd a ffynnai yn ail hanner y 16g oedd [[Torquato Tasso]]. Ysgrifennodd yr arwrgerdd ''La Gerusalemme liberata'', sy'n adrodd hanes cipio Jerwsalem gan [[Godefroid o Fouillon]] yn [[y Groesgad Gyntaf]].
Pwrpas rhyddiaith addysgol y Dadeni oedd i ddisgrifio a chyfarwyddo normau newydd ysbryd yr oes. Ymhlith y clasuron mae ''Il Cortegiano ''gan [[Baltasar de Castiglione|Baldassare Castiglione]], llyfr moes y llys a'i ddefod, ac [[Il Principe]] gan [[Niccolò Machiavelli]], traethawd ar bwnc [[Gwyddor gwleidyddiaeth|damcaniaeth wleidyddol]].

== Yr Almaen ==
Llinell 129 ⟶ 125:
[[Delwedd:Pierre_de_Ronsard.jpg|bawd|181x181px|[[Pierre de Ronsard]].]]
* Ysgrifennodd Du Bellay ''La Défense et illustration de la langue française'', maniffesto llenyddol La Pléiade. Datganodd o blaid y traddodiad clasurol, ac argymhellai llenorion Ffrainc i efelychu mesurau a safonau'r hen Roegwyr, y Rhufeiniaid a'r Eidalwyr. Ymhlith ei delynegion mae ''Les Antiquités de Rome'', cerdd sy'n myfyrio ar gwymp y byd Rhufeinig, a ''Les Regrets,'' casgliad o sonedau a chanddynt dôn fynwesol at sylw ei gyd-feirdd yn La Pléiade.

* Cyfansoddodd Ronsard yr awdl glasurol yn ''Les Odes'' ar batrwm y Groegwr [[Pindar]] a'r Rhufeiniwr [[Horas]]. Dynwaredodd ''Il Canzoniere'', llyfr caneuon Petrarch, yn ''Les Amours'', casgliad o sonedau cariad. Mae ei emynau'n ymdrin â themâu athroniaeth, crefydd, a gwleidyddiaeth. Ceisiodd hefyd gyfansoddi arwrgerdd i'w genedl: ''La Franciade'', ar efelychiad yr ''[[Aenid]]'' gan [[Fyrsil]].
Un o feistri'r rhyddiaith ffuglen oedd [[François Rabelais|Rabelais]], awdur y dychan Gargantua a Pantagruel. Llunia'r campwaith hwn byd ben ei waered ac yn llawn hiwmor a ffantasi, a'i nod yw pigo a gwawdio arferion y Ffrancod.
Llinell 139 ⟶ 134:
Roedd y Dadeni Dysg yn hwyr i gyrraedd Lloegr. Ni welwyd ei wir effaith hyd nes teyrnasiad [[Elisabeth I, brenhines Lloegr|y Frenhines Elisabeth I]] yn ail hanner y 16g. Amlygai'r dylanwadau Eidalaidd a chlasurol yn enwedig yn y theatr Saesneg.

Dychwelodd y chwaraeawd ddramatig i'r llwyfan gan gymryd lle'r ddrama foes. [[William Shakespeare]], [[Christopher Marlowe]] a [[Ben Jonson]] oedd prif ddramodwyr y cyfnod.

Cyfrwng byrfyfyr oedd y ''commedia dell'arte'' a berfformia yn strydoedd yr Eidal a Ffrainc, ond dysgodd yr actor Seisnig ei linellau o'r sgript. Ysgrifennodd Shakespeare comedïau arloesol yn ogystal â'i drasiedïau clasurol ac hanesion canoloesol.