Myrr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: [[File: → [[Delwedd: (3) using AWB
→‎top: Ychwanegu infobox person/wikidata using AWB
Llinell 2:
[[Delwedd:Commiphora-myrrha-resin-myrrh.jpg|bawd|dde|Mae Myrrh yn bur gyffredin yng [[Corn Affrica|Nghorn Affrica]].]]
[[Delwedd:MyrrhEssentialOil.png|bawd|Olew a echdynnir allan o'r myrrh (''Commiphora myrrha'').]]
Resin aromatig sy'n cael ei ddefnyddio mewn [[arogldarth]] a [[persawr|phersawrau]] yw '''llysiau'r gïau''' neu '''Myrrh''' ac weithiau: 'creithig bêr', 'sisli bêr', 'cegiden wen' (o'r [[Hebraeg]] '''''"מור"''''' ("mor") ac [[Arabeg]] '''''مر''''' (''mur''); caiff ei gynaeafu o goed pigog, llawn drain y [[genws]] ''[[Commiphora]]'',<ref>Rice, Patty C., ''Amber: Golden Gem of the Ages'', Author House, Bloomington, 2006 tud.321</ref> a chaiff ei ystyried yn olew hanfodol a elwir yn ''oleoresin''. Math o gwm naturiol yw resin myrrh, sydd wedi cael ei ddefnyddio am ganrifoedd mewn persawr, [[arogldarth]] a [[meddyginiaeth]], neu ar adegau drwy ei gymysgu â [[gwin]].
 
Mae'r broses o gynaeafu myrrh yn hawdd: gwneir twll yn [[rhisgl]] y goeden nes cyrhaeddir y gwynnin, a gwaeda'r goeden yn naturiol, ar ffurf resin hanner hylifol; dyma'r resin, sy'n hynod o debyf i [[thus]]. Mae cynaeafu'r goeden fel hyn yn anafu'r goeden ac mae'r resin yn caledu'n sydyn, gyda sglein arno. Mae hefyd yn melynnu a gall fod yn glir neu'n dryleu. Gyda thruliad amser mae'n tywyllu, gyda rhesin gwyn arno.<ref>Caspar Neumann, William Lewis, ''The chemical works of Caspar Neumann, M.D.'',2nd Ed., Vol 3, London, 1773 p.55</ref>