Castell Harlech: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Adeiladwyd y castell gan [[Edward I o Loegr|Edward I]], brenin Lloegr, rhwng [[1283]] a [[1290]]. Cynlluniwyd y castell consentrig gan [[James o St George]]. Mae'r castell yn adeilad gref iawn uwchben craig fawr, ond gyda grisiau yn arwain at lan y môr. Fel hynny, roedd hi'n bosib anfon cychod dros y mor i'r castell yn ystod gwarchae, er enghraifft o [[Iwerddon]]. Defnyddiwyd y grisiau hyn i ddwyn nwyddau i'r castell mewn gwarchae yn ystod rhyfelgyrch [[Madog ap Llywelyn]] yn 1294–5.
 
Ar ôl gwarchae hir, cwympodd Castell Harlech i [[Owain Glyndŵr]] ym [[1404]], ond roedd y castell o dan reolaeth Saeson ([[Henri o Fynwy]]) drachefn ar ôl pedair blynedd arall. Bu farw [[EdundEdmund Mortimer]], oedd mewn cynghrair a Glyndŵr, yn ystod y gwarchae.
 
Yn ystod [[Rhyfeloedd y Rhosynnau]] roedd y castell dan reolaeth cefnogwyr Cymreig y [[Lancastriaid]] a [[Dafydd ap Ieuan]] yn cadw'r castell yn wyneb gwarchae fu'n para am wyth mlynedd, ac er fod arweinwyr y Lancastriaid yn Lloegr yn ildio i'r brenin. Mae'r gân '[[Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech]]' yn cyfeirio at y gwarchae hwnnw.