Mudiad Rhyngwladol y Groes Goch a'r Cilgant Coch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
→‎top: Ychwanegu infobox person/wikidata using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Croixrouge logos.jpg|250px|bawd|Y Groes Goch a'r Cilgant Coch; dau symbol y mudiad.]]
 
Mudiad dyngarol gyda'r amcan o warchod bywyd dynol a lleihau dioddefaint yw '''Mudiad Rhyngwladol y Groes Goch a'r Cilgant Coch''' ([[Ffrangeg]]: ''Mouvement international de la Croix-Rouge et du Croissant-Rouge'', [[Saesneg]]: ''International Red Cross and Red Crescent Movement''). Mae'r mudiad yn cynnwys nifer o sefydliadau, sydd yn gyfreithiol ar wahân ond yn cydweithredu a'i gilydd. Trwy'r byd, mae gan y mudiad tua 97 miliwn o wirfoddolwyr.
 
Sylfaenwyd y mudiad gan ŵr busnes o'r [[Swistir]], [[Henry Dunant]]. Ym mis Mehefin [[1859]], teithiodd i'r [[Eidal]] a bu'n dyst i [[Brwydr Solferino|Frwydr Solferino]]. Lladdwyd neu clwyfwyd tua 40,000 o filwyr yn y frwydr, a gwelodd Dunant mai ychydig iawn o ofal oedd ar gael i'r clwyfedigion. Ar [[9 Chwefror]] [[1863]], sefydlodd bwyllgor yn ninas [[Genefa]], a ddatblygodd i fod yn fudiad rhyngwladol.
 
Mabwysiadwyd y groes goch ar gefndir gwyn fel symbol, sef baner y Swistir gyda'r lliwiau wedi eu gwrthdroi. Yn y 1870au, dechreuwyd defnyddio y cilgant coch fel symbol mewn gwledydd [[Islamaidd|Islam]].