Ynys Brydain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Wedi symud Ynys Prydain i Ynys Brydain
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Y mae '''Ynys Brydain''' (hefyd : '''Ynys Prydain''', weithiau '''Prydain''') yn derm daearyddol, gwleidyddol a diwylliannol a fu'n ganolog i feddylfryd a hanes y [[Cymry]] yn yr [[Oesoedd Canol]] ac am gyfnod hir ar ôl hynny. Enw arall arni a geir yn y chwedlau, ym ''[[Pedair Cainc y Mabinogi|Mhedair Cainc y Mabinogi]]'' er enghraifft, yw '''Ynys y Cedyrn'''.

Mae'n bwysig sylweddoli nad yw'r enw yn gyfystyr â thermau diweddar fel [[Prydain Fawr]] ac [[Ynysoedd Prydain]], yn yr un modd â bod gwahaniaeth bwysig rhwng ystyron yr enwau [[Brythoniaid|Brython]] a [[Prydeindod|Prydeiniwr]]. Nid oedd y [[Brythoniaid]] yn Brydeinwyr ac nid oeddynt yn defnyddio'r enw Ynys Prydain i olygu Prydain Fawr fel y mae hi heddiw.
 
Cysyniad â'i wreiddiau yn hanes cynnar y Brythoniaid/Cymry oedd Ynys Brydain. Mae'n deillio o'r cyfnod [[Celtiaid|Celtaidd]] a'r cyfnod ôl-[[Rhufeiniaid|Rufeinig]] pan fu Prydain i'r de o linell yn rhedeg o [[Ystrad Clud]] i'r [[Firth o Forth]] ([[Glasgow]] - [[Caeredin]]) ym meddiant y [[Brythoniaid]], pobloedd Celtaidd a siaradai'r iaith [[Brythoneg|Frythoneg]]. Daeth y llwythau "[[Eingl-Sacsoniaid|Eingl-Sacsonaidd]]" (cyndeidiau'r [[Saeson]]) drosodd o'r cyfandir ac yn raddol collodd y Brythoniaid eu tir. Meddianwyd [[Lloegr]] - ac eithrio [[Cernyw]] - gan yr Eingl-Sacsoniaid. Daliodd Brythoniaid yr [[Hen Ogledd]] allan am ganrifoedd, ond torrwyd y cysylltiad rhwng [[Gwŷr y Gogledd]] a Brythoniaid Cymru. Daethant i alw eu hunain yn Gymry ond ni pheidiasent galw eu hunain yn Frythoniaid (neu'r Brython, fel enw torfol unigol) ac i ystyried fod ganddynt hawl ar Ynys Brydain, sef "Gwlad y Brython" (un o hen ystyron ''ynys'' yw 'gwlad', fel yn achos y gair [[Lladin]] ''insula'').