Steven Spielberg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Cyfeiriadau: clean up
→‎top: Ychwanegu infobox person/wikidata, replaced: ugeinfed ganrif → 20g using AWB
Llinell 12:
}}
 
Cyfarwyddwr Ffilm yw '''Steven Allen Spielberg''' [[KBE]] (ganwyd [[18 Rhagfyr]] [[1946]], [[Cincinnati]], [[Ohio]], [[Unol Daleithiau America|UDA)]]. Yn [[2006]], rhestrodd cylchgrawn Premiere ef fel y person mwyaf pŵerus a dylanwadol ym myd ffilmiau. Rhestrodd cylchgrawn ''[[Time (cylchgrawn)|Time]]'' ef fel un o'r 100 o Bobl Mwyaf y Ganrif. Ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif20g, cafodd ei enwi gan gylchgrawn ''Time'' fel un o gymeriadau mwyaf dylanwadol ei genhedlaeth. Mewn gyrfa sydd wedi ymestyn dros bedwar degawd, mae ffilmiau Spielberg wedi ymdrin â nifer o themâu gwahanol. Gwelwyd ffilmiau cynharaf Spielberg, sef ffilmiau [[gwyddonias]] ac antur (yn aml yn canolbwyntio ar blant), fel y ddelfryd o ffilmiau mawrion [[Hollywood]]. Yn y blynyddoedd mwy diweddar, dechreuodd ei ffilmiau ymdrin â themâu fel [[Yr Holocost|yr holocost]], [[caethwasiaeth]], [[rhyfel]] a [[terfysgaeth|therfysgaeth]].
 
Enillodd Spielberg [[Gwobrau'r Academi|Wobr yr Academi]] am y Cyfarwyddwr Gorau am ''[[Schindler's List]]'' (1993) a ''[[Saving Private Ryan]]'' (1998). Torrodd tair o ffilmiau Spielberg y record mewn sinemau am faint o arian a wnaethant, sef ''[[Jaws]]'' (1975), ''[[E.T. the Extra-Terrestrial]]'' (1982), a ''[[Jurassic Park]]'' (1993).