Lladin Llafar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 12fed ganrif12g, 9fed ganrif9g, 8fed ganrif8g, 6ed ganrif6g using AWB
Ychwanegu infobox person/wikidata using AWB
Llinell 1:
'''Lladin Llafar''' (yn [[Lladin]], ''sermo vulgaris'', "iaith y werin") oedd y tafodieithoedd o'r iaith Ladin a siaredid gan werin-bobl yr [[Ymerodraeth Rufeinig]]. Ymrannodd y tafodieithoedd yn yr [[Oesoedd Canol Cynnar]] gan ddatblygu i'r [[ieithoedd Romáwns]] erbyn y [[6g]].
 
Roedd Lladin Llafar yn wahanol i [[Lladin Clasurol|Ladin Clasurol]] yn ei hynganiad, geirfa a [[gramadeg Lladin|gramadeg]]. Nid oedd Lladin Llafar yn iaith ysgrifenedig felly mae'n rhaid i ieithyddion droi at ddulliau anuniongyrchol o'i hastudio.
 
== Hanes ==
Gan nad ysgrifennid iaith feunyddiol siaradwyr Lladin, gellir astudio Lladin Llafar drwy ddulliau anuniongyrchol yn unig. Daw gwybodaeth am Ladin Llafar o dair prif ffynhonnell: yn gyntaf mae’r dull cymharu sy’n ail-greu ffurfiau cynnar yr ieithoedd Romáwns, ac yn nodi lle wahaniaethent o [[Lladin Clasurol|Ladin Clasurol]]; yn ail, mae yna nifer o destunau gramadeg o’r cyfnod Lladin hwyr sy’n collfarnu’r “camgymeriadau” ieithyddol a wnaed gan siaradwyr Lladin sy’n rhoi syniad i ieithyddion o sut y siaredid Lladin gan y werin-bobl; yn drydydd, mae’r enghreifftiau o iaith ddi-glasurol a ddefnyddiwyd yn rhai testunau Lladin hwyr yn datgelu manylion am iaith lafar yr awdur.<ref>Charles H. Grandgent, [http://books.google.com/books?id=_OzEl6nLsGIC&pg=PA5&lpg=PR4 ''An Introduction to Vulgar Latin''] (Heath & Co., 1907)</ref>
 
Am nifer o ganrifoedd ar ôl cwymp yr [[Ymerodraeth Rufeinig]] yn y gorllewin, parhaodd Lladin Llafar i gydfodoli gyda ffurf ysgrifennedig o Ladin hwyr, [[Lladin Canol]], oblegid pan ysgrifennai ysgolheigion, ceisient ysgrifennu gyda gramadeg a sillafu “cywir” ac felly efelychent arferion [[Lladin Clasurol]]. Defnyddiid ffurf “rewadwy” yr iaith Ladin fel iaith ysgolheictod drwy gydol y [[Canol Oesoedd]] hyd y [[Dadeni]].
 
Datblygodd Lladin Llafar yn wahanol yng ngwahanol tirgiogaethau'r [[Ymerodraeth Rufeinig]], gan ddatblygu’n raddol i mewn i [[Ffrangeg]], [[Catalaneg]], [[Eidaleg]], [[Sbaeneg]], [[Portiwgaleg]], a dwsinau o ieithoedd eraill.<ref>[http://www.ethnologue.com/show_family.asp?subid=90057 Ethologue Latin Family]</ref> Er taw Lladin oedd yr iaith swyddogol yn y ardaloedd hyn, fe siaredid Lladin Llafar gan y werin-bobl nes i’r ffurfiau lleol newydd ymrannu’n ddigonol o Ladin gan ddod i’r golwg fel ieithoedd ar wahân. Serch y gwahaniaeth cynyddol rhwng Lladin Llafar ac ysgrifennedig, nid oedd y tafodieithoedd yn annealladwy o’i gilydd nes yr [[8g]].
 
Fe wyddwn fod y tafodieithoedd Lladin yn hollol annealladwy o’i gilydd erbyn y [[9g]]. Isod gweler llw o [[842]] a ysgrifennwyd yn Lladin hollol wahanol i'r iaith glasurol:
 
<blockquote>
Llinell 17:
 
== Gramadeg ==
Roedd gramadeg Lladin Llafar llawer yn fwy [[iaith analytig|dadelfennol]] na [[Lladin Clasurol]] o ganlyniad i golledion ffonetig a erydodd batrymau ffurfdroi [[iaith ymasiadol|ymasiadol]] hynafol.
 
=== Colli'r cenedl niwtral ===
Disodlwyd tair [[cenedl enwau|cenedl ramadegol]] [[Lladin Clasurol]] gan system ddwy-genedl yn y rhan fwyaf o'r [[Ieithoedd Romáwns]]. Yn Lladin mae cenedl yn fater o [[ffurfdro]], e.e mae yna wahanol patrymau gogwyddo a gyfeillechir gyda'r gwrywaidd, benywaidd a'r niwtral. Mae cenedl hefyd yn fater o gytundeb, e.e mae'n rhaid i ansoddeiriau gytuno gyda'r enwau yn ôl cenedl (yn ogystal â [[rhif gramadegol|rhif]] a [[cyflwr gramadegol|chyflwr]]).
 
Arweinodd colled y cytseiniaid olaf at ail-ddadansoddiad o'r system genedl. Er enghraifft yn Lladin Clasurol, gwahaniaethai'r terfyniadau ''-us'' ac ''-um'' rhwng y gwrywaidd a'r niwtral yn yr ail ogwyddiad; gyda'r ''-s'' a ''-m'' wedi diflannu, ymunodd y niwtral gyda'r gwrywaidd. Dyma broses sydd yn gyflawn yn yr ieithoedd Romáwns. Cafodd rhai enwau niwtral yn y lluosog fel ''gaudia'', "llonder", eu hail-ddadansoddi fel enwau benywaidd unigol. Cafodd y rhan fwyaf o enwau niwtral eu hymrwymo i mewn i'r genedl wrywaidd oherwydd y newidiadau seiniol a wanhaodd ddiwedd geiriau.
Llinell 50:
|Abladol:||''aqua''
|}
Oherwydd y newidiadau seiniol a ddigwyddai yn Lladin Llafar, fe ddeath yn galetach i gadw’r system o [[cyflwr gramadegol|gyflyrau]] enwol. Oherwydd colled yr /m/ ar ddiwedd geiriau, colled yr hyd ffonemig llafariad, a’r æ yn newid o /ai/ i /ɛ/ , daeth y [[gogwyddiad Lladin|gogwyddiad cyntaf]] yn ddi-ddefnydd. Dengys y tabl ar y dde yr effaith a gafodd y newidiadau seiniol ar enwau'r gogwyddiad cyntaf. Oherwydd newiadau seiniol eraill tebyg a wanhaodd ddiwedd geiriau, fe gollwyd cyflyrau mewn grwpiau [[gogwyddiad Lladin|gogwyddo]] eraill hefyd gan symud morffoleg enwol Lladin o fod yn [[iaith synthetig|synthetig]] i [[iaith analytig|ddadelfennol]].
 
Fe ddiflannodd y cyflyrau yn raddol. Cadwai [[Hen Ffrangeg]] wahaniaeth rhwng y [[cyflwr goddrychol]] a’r [[cyflwr gwrthrychol]] (cas-sujet/cas-régime) a ddiflannodd yn y [[12g]]. Ceidw Rwmaneg [[cyflwr genidol|gyflwr genidol]] a [[cyflwr derbynniol|chyflwr derbynniol]] o hyd yn ogystal ag olion o [[cyflwr cyfarchol|gyflwr cyfarchol]].
 
Fe farciwyd y gwahaniaeth rhwng ungiol a lluosog mewn dwy ffordd yn yr [[ieithoedd Romáwns]]. I ogledd a gorllewin y [[Llinell La Spezia-Rimini]] sy’n rhedeg drwy ogledd yr Eidal, fe wahaniaethwyd yr unigol o’r lluosog gan –s ar ddiwedd y gair, a oedd yn bresennol yn ffurfiau lluosog benywaidd a gwrywaidd yr hen [[cyflwr gwrthrychol|gyflwr gwrthyrchol]] ym mhob dosbarth [[gogwyddiad Lladin|gogwyddiad]]. I dde a dwyrain y [[Llinell La Spezia-Rimini]], fe farciwyd y gwahaniaeth gan newidiadau llafarol ar ddiwedd enwau, fel sy’n digwydd mewn [[Eidaleg]] a [[Rwmaneg]] fodern. Mae’r newidiadau llafarol yn cadw a chyffredinoli gwahaniaethau a farciwyd ar enwau lluosog yn y [[cyflwr goddrychol|goddrychol]] yn y [[gogwyddiad Lladin|gogwyddiad cyntaf]] a’r [[gogwyddiad Lladin|ail ogwyddiad]].
Llinell 76:
 
=== Berfau ===
Effeithiwyd y ffurfiau berfol llawer yn llai gan y colledion ffonetig a erydodd y system o [[cyflwr gramadegol|gyflyrau enwol]]; yn wir, ymddengys berfau Sbaeneg neu Bortiwgaleg (a nifer o ieithoedd Romáwns) yn debyg iawn i’w ffurfiau hynafol Lladin o hyd. Un rheswm am hyn oedd yr aceniad cryf a ddatblygodd yn Lladin Llafar a roddai bwyslais ar sillafau gwahanol yn y ffurfiau rhediedig. Felly, parhaodd y ffurfiau i esblygu’n ffonetig, ond ni erydodd y gwahaniaethau rhwng y ffurfiau rhediedig.
 
Er enghraifft, yn Lladin, roedd y geiriau am "caraf" a "carwn" yn ''amō'' ac ''amāmus''. Yn [[Hen Ffrangeg]] achosodd yr A accenog [[dipthong|ddipthong]] gan achosi ''(j’)'''ai'''me'' ac ''(nous) '''a'''mons''. Er bod nifer o ffonemau wedi’u colli yn y ddau achos, cadwyd gwahaniaeth rhyngddynt oherwydd yr aceniad. Mae dylanwadau rheoleiddio wedi dadwneud yr effaith yn nifer o achosion (y ffurf fodern yn [[Ffrangeg]] yw ''nous '''ai'''mons'') ond mae rhai berfau modern wedi cadw’r ffurf afreolaidd, fel ''je v'''ie'''ns'' (dof) yn erbyn ''nous v'''e'''nons'' (down), a ddaeth o’r [[Lladin]] ''veniō'' a ''venīmus''.