Ieithoedd Slafonaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
→‎top: Ychwanegu infobox person/wikidata, replaced: ddeuddegfed ganrif → 12g, nawfed ganrif → 9g using AWB
Llinell 7:
Grŵp o ieithoedd a siaredir yn nwyrain Ewrop a gogledd Asia yw'r '''ieithoedd Slafonaidd''', hefyd '''ieithoedd Slafonig'''. Maen nhw'n perthyn i deulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd sy'n gorestyn o arfordir yr Iwerydd hyd at India yn y dwyrain. Fe'u dosbarthir yn dri is-grŵp: yr ieithoedd Slafonaidd Gorllewinol ([[Pwyleg]], [[Slofaceg]], [[Sorbeg]] a [[Tsieceg]]), yr ieithoedd Slafonaidd Dwyreiniol ([[Belarwsieg]], [[Rwsieg]] ac [[Wcreineg]], a'r ieithoedd Slafonaidd Deheuol ([[Bosneg]], [[Bwlgareg]], [[Croateg]], [[Macedoneg]], [[Serbeg]] a [[Slofeneg]]). Weithiau cyfeirir at y grwpiau gorllewinol a dwyreiniol fel ieithoedd Slafonaidd gogleddol ar sail nodweddion cyffredin. Mae ychydig o ieithoedd Slafonaidd eraill wedi marw: [[Hen Slafoneg Eglwysig]] (Slafeg deheuol) a Polabeg (iaith Slafig gogledd-orllewin yr Almaen).
 
Heddiw mae'r ieithoedd Slafonaidd yn defnyddio naill ai'r [[gwyddor Gyrilig|wyddor Gyrilig]] neu'r [[gwyddor Ladin|wyddor Ladin]] ar gyfer eu ffurf ysgrifenedig. Mae'r ieithoedd Slafonaidd Gorllewinol a Deheuol i gyd yn defnyddio'r wyddor Ladin, ac eithrio [[Bwlgareg]], [[Macedoneg]], ac, i radd helaeth, [[Serbeg]], sy'n defnyddio'r wyddor Gyrilig. Mae'r ieithoedd Slafonaidd Dwyreiniol yn defnyddio'r wyddor Gyrilig. Fel rheol fras, mae'r gwledydd Slafaidd Catholig yn defnyddio'r wyddor Ladin, a'r rhai uniongred yn defnyddio'r wyddor Gyrilig. Defnyddiwyd gwyddor arall, y wyddor Glagolitig, a ddyfeisiwyd yn wreiddiol ar gyfer [[Hen Slafoneg Eglwysig]] gan SS. Cyril a Methodiws, o'r nawfed ganrif9g ymlaen yn y gwledydd Slafig deheuol. Fe'i disodlwyd ym Mwlgaria a Macedonia gan y wyddor Gyrilig erbyn y ddeuddegfed ganrif12g, ond cafodd ei defnyddio mewn rhai ardaloedd, Croatia yn arbennig, ar gyfer testunau eglwysig hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
 
==Ffynonellau==