Queer: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif19g using AWB
→‎top: Ychwanegu infobox person/wikidata, replaced: ugeinfed ganrif → 20g using AWB
 
Llinell 1:
{{Cyfeiriadedd rhywiol}}
Yn draddodiadol mae'r gair [[Saesneg]] '''''queer''''' wedi golygu "rhyfedd" neu "anarferol", ond fe'i defnyddir yn aml erbyn heddiw mewn nifer o ieithoedd i gyfeirio at gymunedau [[hoyw]], [[lesbiaidd]], [[deurywiol]], [[trawsryweddol]], [[rhyngrywiol]], ac [[anrhywiol]].
 
[[Delwedd:Rainbow flag and blue skies.jpg|bawd|chwith|[[Symbolau LHDT#Baner enfys|Baner yr enfys]], symbol o'r gymuned LHDT.]]
Mae defnydd y gair yn ddadleuol ar ôl newidiadau sylweddol yn ystod y can mlynedd diwethaf. Tua diwedd y [[19g]] datblygodd, o olygu "rhyfedd" yn ei ystyr ehangach, i olygu rhywun a oedd yn gwyro oddi ar dybiaethau'r cyfnod am "normalrwydd" rhywiol, ac fe'i cyfeiriwyd yn benodol at ddynion hoyw neu ferchetaidd. Mewn ymgais i ddinerthu grym negyddol y gair fel ymosodiad arnynt, aeth ymgyrchwyr hoyw yn chwarter olaf yr ugeinfed ganrif20g ati i adfeddiannu'r gair a'i ddefnyddio mewn modd cadarnhaol, gan uniaethu â'r label ''queer'', a'i ddefnyddio fel [[term mantell]] i ddisgrifio unrhyw [[cyfeiriadedd rhywiol|gyfeiriadedd]] a [[hunaniaeth rywiol]] a/neu [[hunaniaeth ryweddol]] nad yw'n cydymffurfio â chymdeithas [[heteronormadedd|heteronormadol]]. Fodd bynnag, mae rhai yn credu ei fod yn parhau i fod yn derm rhy sarhaus i'w ddefnyddio mewn cyd-destun cadarnhaol.
 
Mewn ymgais i ganfod gair cyfatebol i'w ddefnyddio yn y [[Cymraeg|Gymraeg]], aeth rhai ymgyrchwyr hoyw yng [[Cymru|Nghymru]] ati i ddefnyddio'r label '''hyfryd''' i uniaethu ag ef. Gan mai bathiad bwriadol ydyw yn yr ystyr honno, nid yw ''hyfryd'' yn Gymraeg yn cyfleu'r tyndra hanesyddol sydd ynghlwm â ''queer'' yn Saesneg; yn hytrach, ei ddiben yw cyfleu ochr gadarnhaol y gair Saesneg mewn cymunedau [[LHDT]] Cymraeg.