Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Daeargoel"

Lleihawyd o 2 feit ,  3 blynedd yn ôl
Ychwanegu infobox person/wikidata using AWB
B (Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:Q815750)
(Ychwanegu infobox person/wikidata using AWB)
[[Delwedd:Geomantic figures.svg|bawd|Y 16 ffigur daeargoelus.]]
'''Daeargoel''' (hefyd '''daearddewiniaeth''') yw enw dull o [[darogan|ddarogan]] lle caiff olion ar y [[ddaear]] neu batrymau a ffurfiwyd ar ôl taflu dyrneidiau o bridd, cerrig, neu dywod eu dehongli. Yn bennaf mae'r term yn cyfeirio at ddull penodol o ddarogan â'i gwreiddiau yn [[Arabia]] a [[Persia|Phersia]] a ddaeth yn boblogaidd ar draws [[Ewrop]] yn ystod y [[Canol Oesoedd]] a'r [[Diwygiad]], ond ceir dulliau eraill a ellir disgrifio fel daeargoel, megis ''[[Llyfr y Newidiadau]]'' o [[Tsieina]], [[coelbren]]nau, y defnydd [[Neo-baganiaeth|Neo-baganaidd]] o'r [[Ogam]] o [[Iwerddon]], y [[rŵn|rwnau]] o'r [[Llychlyn]], ac ymarferiadau eraill o [[Asia]] (megis y ''Kumalak'' o [[Kazakstan]]) ac [[Affrica]] (megis y penillion ''Odu'' o [[Nigeria]]).
 
Defnyddiwyd y ffurf Ewropeaidd boblogaidd o ddaeargoel gan [[Dyn Hysbys|ddynion hysbys]] yng [[Cymru|Nghymru]]<ref>Griffiths, Kate Bosse; ''Byd y Dyn Hysbys'', Pennod III, Y Lolfa 1977.</ref>
===Y Breuddwydion===
 
Y breuddwydion, sef arwyddocâd y ffigurau.
 
* Fortuna Major: Lwcus iawn mewn aur ac arian, a gorau gyda nwydau; hwyrach anrheg annisgwyl gan gyfaill.
420,642

golygiad