Dewiniaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Gwreiddiau anthropolegol a seicolegol: canrifoedd a Delweddau using AWB
Ychwanegu infobox person/wikidata using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Circe Offering the Cup to Odysseus.jpg|200 px|bawd|"[[Circe]] yn Cynnig y Cwpan i [[Wlysses]]" gan [[John William Waterhouse]]]]
 
'''Dewiniaeth''', (hefyd '''dewindabaeth''', '''hudoliaeth''', '''y gelfyddyd''' a '''swyngyfaredd''') yw'r term am ddylanwadu ar ddigwyddiadau, gwrthrychau, pobl a ffenomena trwy foddion goruwchnaturiol, paranormal neu gyfriniol. Gallai hefyd gyfeirio at yr ymarferion a ddefnyddir i wneud hynny, a'r credau sy'n defnyddio'r rhain i esbonio digwyddiadau a ffenomena. Mewn termau [[Ocwlt|ocwltwyrocwlt]]wyr modern, dewino yw'r weithred o gyfuno'r bydol â'r aruchel er mwyn canolbwyntio'r ewyllys fel y caiff ddylanwad ar ddigwyddiad, gwrthrych, a bodau. Yn aml mae [[cyfriniaeth]], [[ocwlt|ocwltiaeth]]iaeth, [[crefydd]], [[gwyddoniaeth]], a [[seicoleg]] yn dylanwadu ar ddewiniaeth.
 
Un o nodweddion sylfaenol dewiniaeth yw'r gred y gall efelychiad o weithred gael yr un effeithiau â'r weithred go iawn. Gwneir hynny drwy gyfatebiaeth symbolaidd. Enghraifft o hynny yw "lladd" neu niweidio dòl gŵyr sy'n cynrychioli person go iawn, yn y gred y byddai'r fath efelychiad yn cael effaith cyffelyb ar y person hwnnw. "[[Dewiniaeth sympathetig]]" yw'r enw ar y cysyniad hwn. Mae dewiniaeth sympathetig yn ffurfio rhan hanfodol o bron bob math o ddewiniaeth, o [[siamanaeth|siamaniaeth]] i ddewiniaeth ddefodol, sy'n ffocysu ar y defnydd o ddefodau sydd llawn cyfatebiadau symbolaidd cymhleth er mwyn dewino, yn ogystal â mewn defodau crefyddol megis yr [[offeren]] [[Cristnogaeth|Gristnogol]].
 
Yn aml defnyddir technegau i weld pethau'r tu hwnt i'r dewin mewn gofod ac amser, yn bennaf i [[darogan|ddarogan]] y dyfodol. Roedd unwaith adeg yng [[Cymru|Nghymru]] pan fyddai [[darogan]] yn rhan barchus, gydnabyddedig o fywyd cymdeithas, fel mae sylwadau Gerallt Cymro ynglŷn ag [[awenyddion]]<ref name="Thomas Jones 1938">Thomas Jones (cyf.), ''Gerallt Gymro'', Caerdydd, 1938.</ref> a hanes [[Dyn Hysbys|dynion hysbys]] yng Nghymru yn tystio. Yn ôl tystiolaeth gynnar, roedd darogan yn rhan sylfaenol o fywyd crefyddol y [[Celtiaid]], gyda ''vates'' ([[Gâl]]) a ''fili'' ([[Iwerddon]]) yn gyfrifol amdano gan amlaf. Byddai rhai yn derbyn eu gwybodaeth am y dyfodol drwy arsylwadau o ehediadau a galwadau adar. Dull arall ymhlith y Celtiaid oedd darogan yn ôl breuddwydion neu weledigaethau a gafwyd mewn llewyg, neu "swyngwsg",<ref>Griffiths, Kate Bosse; ''[[Byd y Dyn Hysbys]]: Swyngyfaredd yng Nghymru, td 83-84 , Y Lolfa 1977.</ref> sy'n ffurf ar hypnotiaeth.
 
Ffurf arall ar ddarogan yw [[sêr-ddewiniaeth]] neu "astroleg", sef grŵp o systemau, traddodiadau, a chredoau lle mae gwybodaeth am leoliad [[planed]]au yng nghyswllt [[Cytser|cytseraucytser]]au'r [[Sidydd]] yn galluogi i'r dewin ddeall a dehongli gwybodaeth am bersonoliaethau pobl a rhagddweud eu dyfodol. Ym [[Mesopotamia]] a'r [[Hen Aifft]], roedd dosbarth arbennig o offeiriaid yn astudio'r nefoedd er mwyn ceisio [[darogan]] y dyfodol. Roedd sêr-ddewiniaeth a'r defnydd o [[horosgop]]au yn boblogaidd iawn ymhlith [[Dyn Hysbys|dynion hysbys]] yng Nghymru, a ddefnyddiai hefyd [[daeargoel|ddaeargoel]] i ddarogan y dyfodol.
 
==Geirdarddiad a thermau eraill==
Tarddiad y gair "dewiniaeth" yw'r [[Lladin]] ''divinatio'' "darogan", o ''divinare'' "rhagweld gydag ysbrydoliaeth ddwyfol"<ref>http://penelope.uchicago.edu/Thayer/E/Roman/Texts/secondary/SMIGRA*/Divinatio.html</ref>, sydd ei hun yn dod o'r gair ''divinus'' "dwyfol" (yr un tarddiad â'r gair "[[diwinydd]]"), ond a ddefnyddiwyd hefyd i olygu "gweledydd" a "rhagweledydd". Yn wir, gellir ystyried y gair ''divinus'' yn yr ystyr "gweledydd" fel tarddiad y gair '''dewin'''.
 
Yn y [[Gymraeg]] ceir sawl gair sydd naill ai yn gyfystyr â dewiniaeth neu'n gysylltiedig iddi. Mae'r geiriau '''hudo''', '''swyno''', '''cyfareddu''' a '''swyngyfareddu''' i gyd yn awgrymu'r weithred o orfodi ewyllys y dewin ar bobl, bodau neu bethau. Defnyddir y gair '''hud''' fel gair cyffredin am y pŵer goruwchnaturiol y mae'r dewin yn ei geisio, er gall hefyd olygu [[swyn]], sef y fformiwla ddefodol y mae'r dewin yn ei defnyddio i gael effaith benodol. Mae'r gair '''rheibio''', a gysylltir yn draddodiadol â gwrachod, yn disgrifio swyno er mwyn peri niwed neu ddifrod i bersonau a'u heiddo, neu'r dylanwad neilltuol sy'n cadw dyn neu anifail rhag cyflawni ei briod waith, tra mae '''dadreibio''' yn disgrifio ymgais swynol i wrthweithio dylanwadau drwg ar eiddo, nad oes neb yn siŵr sut na pham y daethant.<ref>Griffiths, Kate Bosse; ''[[Byd y Dyn Hysbys]]: Swyngyfaredd yng Nghymru, td 9-10 , Y Lolfa 1977.</ref> Ceir dewiniaeth wen a dewiniaeth ddu, a elwir hefyd y gelfyddyd wen a'r gelfyddyd ddu. Clywir y fath bolareiddio rhwng da a drwg yng ngeiriau [[Giovanni Pico della Mirandola]]; yn ôl yr Eidalwr y mae dwy fath wahanol o ddewiniaeth - y cyntaf yw γοητεια, "Goëtia", dewiniaeth ddu lle mae'r dewin yn cynghreirio gyda chythreuliaid neu ysbrydion drygionus, a'r ail yw Dwyfolwaith, dewiniaeth ddwyfol lle mae'r dewin yn cynghreirio gydag ysbrydion dwyfol, fel angylion a duwiau. O ran ymarferwyr dewiniaeth yn y Gymraeg, ar wahân i [[Gwrach|wrach]] (a '''rheibies''') ceir '''awenyddion''' yn amser [[Gerallt Cymro]], sef daroganwyr tebyg i'r ''divinatores,''<ref> name="Thomas Jones (cyf.), ''Gerallt Gymro'', Caerdydd, 1938.<"/ref> ond [[Dyn Hysbys]] yw'r enw mwyaf cyffredin am ddewiniaid a swynwyr yng [[Cymru|Nghymru]].
 
==Damcaniaethau gwyddonol==
Llinell 42:
 
* '''Grymoedd naturiol cudd''' nas darganfuwyd eto gan wyddoniaeth, ac efallai ni chânt fyth eu darganfod. Mae'r grymoedd dewinol hyn yn bodoli ochr yn ochr â grymoedd sylfaenol natur fel [[disgyrchiant]] ac [[electromagneteg]].
 
* '''Ymyriad ysbrydion''', yn debyg i rymoedd naturiol cudd ond gyda'u hymwybyddiaeth a dealltwriaeth eu hun. Bydd credinwyr yn aml yn disgrifio llond cosmos o bob math o ysbryd gyda'u hierarchaethau eu hun.
 
* '''Grym cyfriniol''' megis mana, numen, tshî, neu kundalini, sy'n bodoli ym mhob peth. Weithiau bydd y grym yn cael ei grynodi i mewn i ryw wrthrych dewinol, megis modrwy, carreg neu swynogl, a fydd yn cael ei ddefnyddio gan y dewin.
 
* '''Grym astudrwydd''' sef y cred y gall meddwl y dewin gael rheolaeth ar wrthrych neu gyrraedd rhyw nod penodol drwy ganolbwyntio ei feddyliau arno.
 
* '''Grym yr isymwybod''' sef y cred bod gan yr isymwybod bwerau dewinol gall y dewin eu defnyddio drwy dechnegau amrywiol. Enghraifft o hyn yw techneg y [[seliau (ocwlt)|seliau]].
 
* '''Cydgysylltiad''' neu '''Undod y Cyfan''', sef y cred bod pob peth yn y [[bydysawd]] yn gysylltiedig â phob peth arall, ac felly gall y dewin defnyddio'r cydgysylltiadau hyn i effeithio ar bethau. Erbyn heddiw ceir amrywiaethau ar y cred hwn sy'n benthyg syniadau oddi wrth feysydd gwyddonol megis [[ffiseg]], [[mecaneg cwantwm]], [[mathemateg]] a [[Damcaniaeth Caos]].
 
* '''Dim angen esboniad''', hynny yw'r farn nad oes angen esboniad ar y dewin i egluro sut mae dewiniaeth yn gweithio: "os mae'n gweithio, mae'n gweithio."
 
* '''Caniateir i bopeth; nid oes gwirionedd''', un o brif ddywediadau [[dewiniaeth Caos]]. Yn ôl dewiniaeth caos gall unrhyw baradeim neu ddamcaniaeth fod yn ddilys gan nad yw'r fath beth â gwirionedd yn bodoli mewn unrhyw synnwyr gwrthrychol. Fel canlyniad bydd y dewin Caos yn defnyddio paradeimau ar hap ac ar fympwy.