Altocumulus lenticularis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
 
Ychwanegu infobox person/wikidata using AWB
Llinell 1:
[[File:Lenticular Cloud over Harold's Cross Dublin Ireland 30-6-15.jpg|thumbbawd|Cwmwl Altocumulus lenticularis dros Harold's Cross Dulyn, Iwerddon 30-6-15]]
 
Perthynas agos i'r cymylau traeth awyr yw yr hyn a elwir yn gymylau gwynt ('''Altocumulus lenticularis''').
 
==Disgrifiad==
 
Maent yn hawdd i'w hadnabod am eu bod ar ffurf lens, cneuen almon neu [[pysgodyn|bysgodyn]] – sy'n cyfri am eu henw llafar 'pysgod awyr'. Ffurfir cymylau lenticularis pan gaiff yr aer ei godi i'r entrychion gan [[gwynt|wynt]] cryf dros [[bryn|fryn]] neu [[mynydd|fynydd]].
 
Bydd y pysgod lenticularis yn ffurfio ar frig ton o aer yn uchel yn yr awyr a pheth pellter yng nghysgod neu y tu ôl i'r mynydd. Maent yn ymddangos fel eu bod yn aros yn eu hunfan ac i'w gweld yn weddol gyffredin mewn ardaloedd mynyddig fel [[Cymru]]. Am y gallant fod yn yn berffaith grwn, weithiau'n unigol ac weithiau'n glwstwr fel nifer o grempogau neu blatiau ar bennau ei gilydd, fe'u camgymerwyd, o bryd i'w gilydd, gan rai am soseri ehedog o'r gofod.