Cwmwlws: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cyfuno gydag erthygl fechan a oedd yn bodoli'n barod: Cwmwl cwmwlws
→‎Enwau eraill: Ychwanegu infobox person/wikidata using AWB
Llinell 6:
 
==Enwau eraill==
Enwau eraill arnynt yw 'cymylau defaid' am eu bod yn weddol grwn a gwasgaredig – yn debyg i braidd yn pori'r llechweddau. Oherwydd eu diniweidrwydd, mae'n debyg, cawsant eu cyffelybu yng [[Gwynedd|Ngwynedd]] â'r [[Seintiau]]: 'Seintiau tywydd braf' dros [[Ynys Môn]] (o [[Waunfawr]]) a 'Seintiau [[Aberdyfi]]' dros Fae [[Ceredigion]] (o [[Cricieth|Gricieth]]). Ond hawdd iawn y gall y diniwed newid ei natur!
 
Pan gyfyd gwyntoedd stormus o'r de orllewin â'r cymylau bychain yn carlamu ar draws yr awyr o'r cyfeiriad hwnnw fe'u gelwir yn 'feirch y ddrycin' a 'merlod Hafnant' yn ardal [[Ysbyty Ifan]], sy'n gyfeiriad at Fynydd Hafnant ym mhen ucha'r cwm. Os ydynt yn cynyddu ac ymledu gallant fod yn un o'r arwyddion cyntaf bod glaw ar ei ffordd. Enw arnynt yn ardal y [[Bala]] pan maent yn dechrau ymddangos yw 'cymylau pennau cŵn'. Os parhânt i gynyddu a phentyrru deuant i edrych fel blodfresych mawr bolddu ac ymhen ychydig oriau yn gymylau terfysg. Ceir dywediad am hynny o ogledd [[Ceredigion]]: 'Pen ci bore o wanwyn, uchel gynffon buwch cyn nos.' Yr 'uchel gynffon buwch' yn cyfeirio at y gwartheg yn 'stodi, neu'n rhedeg â'u cynffonnau'n syth i'r awyr, fel y gwnânt ar dywydd trymaidd cyn storm o felt a thrannau yn yr haf.