Amffibiad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cell Danwydd (sgwrs | cyfraniadau)
{{Priodoliad Twm Elias|: Gwyddoniadur Cymru|Gwasg y Brifysgol}}
→‎top: Manion using AWB
Llinell 21:
Grŵp o [[Fertebrat|anifeiliaid asgwrn-cefn]] yw '''amffibiaid'''. Mae bron 6000 o rywogaethau. Maen nhw'n cynnwys [[llyffant]]od, [[broga]]od, [[salamandr]]au, [[Madfall ddŵr|madfallod dŵr]] a [[Sesiliad|sesiliaid]].
 
Chwe rhywogaeth sy'n frodorol i Gymru: gan gynnwys y [[llyffant|llyffantod]]od a'r [[Madfall|madfallodmadfall]]od. Y llyffant melyn / broga (''Rana tempraria'') yw'r mwyaf adnabyddus ac eang ei ddosbarthiad. Ceir llawer o gyfeiriadau llên gwerin ato a'r clystyrau grifft mewn pyllau yn Chwefror a Mawrth, sy'n un o arwyddion y gwanwyn. Lliwiau'r oedolyn yw tywyll ar gyfnod glawog a melyn ar gyfnod heulog, a dyma arwyddion tywydd traddodiadol i'r cynhaeaf. Gorchuddir y [[llyffant dafadennog]] (''Bufo bufo'') â chwarennau gwenwynig a manteisiai gwrachod ar y cyffuriau ynddynt ar gyfer swynion ac i gyfleu'r teimlad o hedfan. Collwyd [[llyffant y twyni]] (''Bufo calamita'') o Gymru yn y [[1970au]] ond fe'i hailgyflwynwyd i safleoedd addas yn ddiweddarach.
Y fadfall ddŵr balmwyddog (''Triticus helveticus'') yw'r fwyaf cyffredin trwy Gymru ac mae i'w chael mewn pyllau yn uchel yn y mynydd-dir mewn rhai ardaloedd. Mae'r fadfall ddŵr gyffredin (''T. vulgaris'') a'r fadfall ddŵr gribog (''T. cristatus'') yn fwy i'r dwyrain a'r tiroedd gwaelod.