Rheilffordd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
→‎top: Manion, replaced: deunawfed ganrif → 18g, y d18g → y 18g using AWB
Llinell 4:
Dull o gludo nwyddau neu bobl ar drên a wagenau sy'n mynd ar gledrau yw '''rheilffordd''' a hynny ar daith bendant gan nad yw'r trên yn gwyro o'r daith (yn wahanol i gar neu feic). Gellir dosbarthu'r gwahanol fathau o reilffyrdd yn sawl dosbarth gan gynnwys [[Rheilffyrdd Bach]] ar gyfer yr ymwelydd a'r rheilffyrdd a ddefnyddir yn ddyddiol gan gymudwyr.
 
Cledrau [[dur]] a ddefnyddir bellach er bod cledrau [[haearn]] wedi cael eu defnyddio ers y ddeunawfed ganrif18g, a wagenau yn cael eu tynnu gan geffylau ar gledrau pren hefyd. Daeth rheilffyrdd yn bwysig iawn i gludo [[glo]], [[haearn]] a nwyddau eraill yn ystod [[y Chwyldro Diwydiannol]].
 
Y [[peiriant stêm]] cyntaf i redeg ar gledrau oedd un [[Richard Trevithick]] ar [[12 Chwefror]] [[1804]]. Tynnodd cerbyd Trevithick ddeg tunnell o haearn a 70 o ddynion o waith haearn Penydarren Merthyr Tudful mor bell ag Abercynon, ond yr oedd yn rhy drwm ac felly ddim yn effeithiol iawn. Ni dderbyniwyd y syniad a bu farw yn fethdalwr. Y rheilffordd stêm lwyddiannus gyntaf oedd [[Rheilffordd Stockton and Darlington]]. Dilynwyd hon yn fuan gan [[Rheilffordd Lerpwl a Manceinion]] gyda pheiriant enwog o'r enw [[Rocket]] gan [[George Stephenson]]