Geisha: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →top: clean up |
→Geisha a Phuteindra: Manion, replaced: ail ganrif ar bymtheg → 19g, deunawfed ganrif → 18g using AWB |
||
Llinell 40:
Mae'r geisha wedi cael eu cymysgu gyda phuteiniaid llys o gyfnod [[Edo]] a gawsai eu hadnabod fel ''oiran''. Fel y geisha, gwisgai'r geisha steil gwallt unigryw a cholur gwyn, ond arferai'r oiran glymu eu kimono yn y tu blaen. Nid oedd hyn er mwyn gallu diosg eu gwisg yn gyflym, fel y tybia nifer o bobl, ond am mai dyna oedd yr arfer i wragedd priod y cyfnod yn ôl yr anthropolegwraig Liza Dalby.
Roedd [[puteindra]] yn gyfreithlon yn ystod y cyfnod Edo. Gweithiai puteiniaid megis yr ''oiran'' mewn ardaloedd muriedig a gawsai eu trwyddedi gan y llywodraeth. Yn yr
Ym [[1872]], yn fuan ar ôl Adnewyddiad Meiji, pasiodd y llywodraeth newydd ddeddf a roddai'r hawl i buteiniaid weithio. Roedd geiriad y ddeddfwriaeth newydd yma yn ddadleuol iawn. Credai rhai swyddogion fod geisha a phuteiniaid yn gweithio ar ddau begwn gwahanol o'r un proffesiwn - gwerthu'u cyrff - ac felly y dylid galw pob putain yn "geisha". Yn y diwedd fodd bynnag, penderfynodd y llywodraeth i gadw'r gwahaniaeth rhwng y ddau grŵp , gan ddadlau fod "geisha" yn fwy diwylliedig ac na ddylent gael eu pardduo gyda'r cysylltiad i buteiniaid.
|