Diod feddwol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Cyfeiriadau: ffynonellau a manion using AWB
→‎top: Manion using AWB
Llinell 3:
Diod sy'n cynnwys [[ethanol]] (a adwaenir yn fwy cyffredin fel '''alcohol''') yw '''diod feddwol'''. Weithiau caiff diod feddwol ei galw'n '''ddiod alcoholaidd''' neu'n '''ddiod gadarn'''. Rhennir diodydd meddwol i mewn i dri prif gategori: [[cwrw]], [[gwin]]oedd a [[diodydd wedi'u distyllu|gwirodydd]].
 
Yfir diodydd meddwol yn y mwyafrif o wledydd y byd. Mae gan bob cenedl ddeddfau sy'n rheoli'r modd y cânt eu cynhyrchu, gwerthu a'u hyfed. Mae'r cyfreithiau hyn yn nodi'r oed y gall person yfed neu brynu'r diodydd hyn yn gyfreithlon. Amrywia'r oed hyn rhwng 16 a 25 mlwydd oed, yn dibynnu ar y genedl ac ar y math o ddiod. Gyda'r mwyafrif o wledydd, yr oed cyfreithiol i brynu ac yfed alcohol yw 18 mlwydd oed.<ref>[http://icap.org/table/MinimumAgeLimitsWorldwide Minimum Age Limits Worldwide]. Adalwyd ar 2009-09-20 International Center for Alcohol Policies</ref>
 
Gwelir alcohol yn cael ei gynhyrchu a'i yfed yn y mwyafrif o ddiwylliannau'r byd, o bobloedd [[hela a chasglu]] i [[Cenedl-wladwriaeth|genhedloedd-wladwriaeth]].<ref>[http://www.europeanbeerguide.net/eustats.htm#production Volume of World Beer Production] European Beer Guide. Adalwyd ar 2006-10-17</ref> Yn aml, mae diodydd meddwol yn chwarae rhan bwysig mewn digwyddiadau cymdeithasol y diwylliannau hyn. Mewn nifer o ddiwylliannau, mae [[diwylliant yfed|yfed]] yn chwarae rôl allweddol mewn rhyngweithio cymdeithasol - oherwydd effeithiau niwrolegol alcohol yn bennaf.