Unol Daleithiau America: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cell Danwydd (sgwrs | cyfraniadau)
Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau
→‎Hanes: Manion, replaced: oddiwrth → oddi wrth using AWB
Llinell 58:
Roedd y 13 talaith wreiddiol yn wladfeydd [[Teyrnas Prydain Fawr|Prydeinig]] hyd yr [[1700au]] cyn iddynt ennill eu hannibyniaeth yn sgil [[Gwrthryfel America]] ([[1776]]-[[1783]]).
 
Bryd hynny, roedd [[Florida]] a thiriogaethau eraill yn y de a'r de-orllewin ([[Texas]], [[California]], [[Arizona]] a.y.y.b.) yn perthyn i [[Sbaen]]; roedd rhan sylweddol o'r tir yng nghanol y cyfandir i'r gorllewin o [[Afon Mississippi]] hyd at ffin [[Canada]] yn perthyn i [[Ffrainc]], ac roedd [[Alaska]] yn perthyn i [[Rwsia]]. Yn [[1803]] prynodd yr Unol Daleithiau y tir Ffrengig am 60 miliwn o ffranciau, neu tua 15 miliwn o ddoleri ([[Pryniant Louisiana]]) a dwblodd hynny faint y wlad. Yn [[1836]] cafodd [[Texas]] annibyniaeth oddiwrthoddi wrth [[Mecsico]] ac ar ôl naw mlynedd fel [[Gweriniaeth Texas]] ymunodd y dalaith â'r undeb. Ar ôl y rhyfel rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico, roddodd [[Cytundeb Guadeloupe-Hidalgo]] ([[1848]]) 200,000 milltir sgwar o dir, sydd heddiw yn cynnwys y rhan fwyaf o daleithiau [[New Mexico]], [[Arizona]], [[California]], [[Colorado]], [[Utah]] a [[Nevada]], i'r Unol Daleithiau.
 
Ymladdwyd [[Rhyfel Cartref America]] (1861 - 1865) rhwng unarddeg talaith yn y de oedd yn dymuno gadael yr Unol Daleithiau a'r gweddill o'r wlad. Dechreuodd y rhyfel yn dilyn etholiad [[Abraham Lincoln]] yn Arlywydd yr Unol Daleithiau yn [[1861]]. Prif asgwrn y gynnen oedd caethwasiaeth; yr oedd pob un o'r taleithiau oedd yn dymuno gadael yr Undeb yn rhai lle roedd caethwasiaeth yn elfen bwysig. Tra nad oedd Lincoln wedi bygwth dileu caethwasiaeth, ystyrid ef yn elyn i'r gyfundrefn. Dewisodd y gwrthryfelwyr [[Jefferson Davis]] fel Arlywydd.