Ffars: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: manion cyffredinol a LLByw, replaced: 19eg ganrif19g using AWB
→‎top: Manion using AWB
Llinell 1:
''Genre'' [[llenyddiaeth|llenyddol]] yw'r '''Ffars''' (o'r [[Lladin]] ''farcire'', 'llenwi i mewn, stwffio'), math o [[Drama|ddrama]] ysgafn a fwriedir i ddiddanu yn unig, heb soffistigeiddrwydd a deallusrwydd [[comedi]]. Bachwyd y gair yn [[Ffrainc]] yn yr [[Oesoedd Canol]] i ddisgrifio'r '[[anterliwt]]iau' comig a berfformid i ddiddanu'r dorf rhwng actiau [[Drama firagl|dramâu miragl]] hirfaith.
 
Fel rheol mae ffars yn cynnwys elfennau fel sefyllfeydd rhyfedd, cyd-digwyddiadau anghredadwy a gor-bwysleisio abswrd cymeriad a digwyddiad. Cafodd rhai o'r ffarsau gorau eu sgrifennu yn y [[19g]] yn Ffrainc. e.e. gan [[Feydeau]] a [[Labiche]].